Adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg
- Cyhoeddwyd

Mae gan Ifan Morgan Jones newyddion drwg iawn ar wefan Ffrwti - mae'r gaeaf oeraf erioed ar y ffordd.
Fe fyddwn ni wedi ein caethiwo yn ein tai am fisoedd gan wal o eira uwch na hwnnw a welwyd yn 'Game of Thrones'.
Bydd Môr Iwerddon yn rhewi drosodd gan ganiatáu i ni efelychu Bendigeidfran a cherdded draw i Ddulyn.
Sut mae'n gwybod hyn?
Wel y Daily Express sydd wedi bod yn darogan, ond yn anffodus, fel y dywed Ifan, mae hi ychydig yn anodd llyncu honiadau'r papur, gan eu bod nhw wedi dweud yn union yr un peth y llynedd, a'r flwyddyn gynt.
A dweud y gwir, 'dyw Ifan ddim yn teimlo bod yr haf drosodd o ddifri nes bod yr Express yn darogan bod Sul y pys rhewedig ar ei ffordd.
E-lyfr neu lyfr go iawn?
Beth wnawn ni dros fisoedd llwm y gaeaf felly? Does dim yn well gan rai ohonon ni nag ymgolli mewn llyfr da, ac un felly yw Meg Elis.
Ar wefan Cymru Fyw, mae'n pwyso a mesur rhinweddau'r llyfr traddodiadol a'r e lyfr, sydd, mae'n rhaid iddi gyfaddef, yn beth handi iawn - does ganddi ddim byd yn erbyn dyfeisiadau na thechnoleg newydd - mae hi'n siŵr y buo yna broffwydi gwae pan symudwyd am y tro cyntaf o femrwn i'r print ffasiwn newydd yma - "Wnaiff o'm para, chwiw ydi o, 'chi" mae hi'n clywed ryw hen fynach yn ei scriptorium yn d'eud.
Ond dydi hi ddim chwaith yn ochri efo'r bobl hynny sy'n medru dweud - "O, wrth gwrs, mae fy holl lyfrgell i bellach yn electronig."
Cymedroldeb, hwnna ydi o - a chydnabod fod lle i'r ddau gyfrwng, yn enwedig, os ydych chi fel Meg, yn un sy'n rhoi naw llyfr yn ei chês wrth fynd i ffwrdd am ddwy noson.
Ffermwyr Ifanc
Ond mae'n well gan rai pobl fwynhau cymdeithasu yn eu hamser hamdden, ac yn ôl Lyn Ebenezer yn y Cymro, does dim unlle gwell i bobl ifanc na'r Ffermwyr Ifanc.
Mae'r mudiad yn agos iawn at ei galon, ar ôl bod yn aelod o Glwb Ystrad Fflur am flynyddoedd.
Yn ôl Lyn, mae mwy o angen y Ffermwyr Ifanc heddiw nag erioed.
Gyda'r llanw'n gryf yn erbyn yr iaith Gymraeg, ffermwyr ifanc sydd wedi dewis aros adref yw'r argae olaf.
Mae ein pobl ifanc yn llifo allan, meddai - does ganddyn nhw fawr o ddewis. Does yma ddim byd i'w dal.
Ffermwyr ifanc Cymru felly yw'r rhagfur olaf un - nhw yw dyfodol cefn gwlad - yr unig ddyfodol erbyn hyn.
Cerddoriaeth Gymraeg
Mae Lois Gwenllian ar wefan Ffrwti'n aml yn clywed pobl yn sôn am ddiffyg diddordeb pobl ifanc mewn pethau Cymraeg, a'r hyn sy'n codi ei ben yn dragywydd, meddai, yw pam nad oes mwy yn gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg?
Un rheswm yn ôl Lois yw nad yw'r gwasanaeth ar gyfer pobl ifanc ddim yn cynnig digon o ganu pop, sy'n hawdd gwrando arno; mae pobl yn rhy barod i feirniadu rhywbeth oherwydd mai pop ydy o, ac yn enwedig felly yng Nghymru.
Dydy canu pop Cymraeg ddim yn golygu bod y gerddoriaeth yn wael nac yn ddiflas, ac mae'n credu nad yw rhestr hir Cylchgrawn y Selar o ddeg albwm Cymraeg gore'r ddegawd ddiwethaf yn gynrychioliad teg o gerddoriaeth boblogaidd Gymraeg - dim Frizbee, Elin Fflur, Al Lewis na Bandana.
Fedra i ddim dweud wrthoch chi be' ydy'r 10 albym gorau o'r ddegawd ddiwethaf, meddai.
Mae gen i fy ffefrynnau, ond dydy hynny ddim yn eu gwneud nhw'r goreuon, ac mae hi'n credu mai dyma y mae angen i gyhoeddwyr a chynhyrchwyr ei gofio: mewn diwydiant mor fychan, lle mae pawb yn 'nabod pawb, weithiau mae rhoi chwaeth bersonol a theyrngarwch i un ochr, a gadael i werthiant wneud y dewis drostyn nhw yn gwneud lles.