Diwrnod yn codi ymwybyddiaeth am 'gaethwasiaeth fodern'
- Cyhoeddwyd

Mae modd mynd i'r afael â chaethwasiaeth os yw pobl yn sylwi ar ymddygiad dioddefwyr, medd ymgyrch sy'n cael ei lansio yn y gogledd.
Yn rhan o'r ymgyrch mae'r heddlu, cwmnïoedd fferi, elusennau a bron 40 o asiantaethau, a dywedodd trefnwyr taw hon yw'r un gynta yng ngwledydd Prydain.
Ym mhorthladd Caergybi bydd teithwyr yn cael taflen, rhestr wirio yn cyfeirio at "arwyddion rhybudd" o ecsploetio rhywiol, llafur gorfodol a cham-drin.
Nod y diwrnod yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd am y troseddau - a'r gwaith partneriaeth sy'n anelu at fynd i'r afael â'r broblem.
'Ymhob man'
Cafodd James Coy ei benodi'n Gydlynydd Atal Masnachu Pobl ar gyfer gogledd Cymru, y swydd gyntaf o'i math ym Mhrydain.
"Mae hon yn broblem ymhob man, nid yn unig mewn dinasoedd. Mae gogledd Cymru yn cael ei effeithio gymaint ag unman arall.
"Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru mae awdurdodau lleol yn ceisio mynd i'r afael â masnachu pobl a nod ein hymgyrch ni yw cydlynu ymdrechion cyn canolbwyntio ar ffyrdd well o roi gwybod i'r awdurdodau, gofal gwell i dioddefwyr, a phwyslais ar atal troseddu ac erlyn.
"Mae pobl yn cael eu hecsploetio mewn sawl ffordd ac mae angen i'r cyhoedd ddechrau meddwl am y broblem o ddifri.
"Os yw rhywun yn edrych yn rhyfedd yng nghwmni pobl eraill, dylai aelod o'r cyhoedd roi gwybod i'r awdurdodau."
Ymddygiad anarferol
Mae'r daflen, fydd yn cael ei rhoi i deithwyr yng Nghaergybi, yn gofyn i'r cyhoedd gadw golwg ar ymddygiad anarferol fel diffyg hunanbarch, bod o dan gyfarwyddyd rhywun arall, amau'r awdurdodau, neu wisgo dillad anaddas.
Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Mark Pierce o Heddlu'r Gogledd: "Mae effeithiau masnachu yn ysgytwol ac mae rhai o'r dioddefwyr mor fregus fel nad ydyn nhw'n sylweddoli eu bod yn cael eu hecsploetio.
"Yr arf orau yw'r cyhoedd yn gwylio ac yn gwrando."
Os yw rhywun yn amau bod gweithgareddau'n awgrymu cam-drin neu gaethwasiaeth dylai ffonio'r heddlu ar 101, Taclo'r Tacle ar 0800 555 111 neu linell gymorth ar 0800 0121 700.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2014