Protest ar oedi pellach Pont Briwet

  • Cyhoeddwyd
Pont Briwet

Bnawn Sul, bydd protest yn cael ei chynnal gan drigolion lleol mewn ymateb i gyhoeddiad Cyngor Gwynedd o oedi pellach ar agor pont dros aber Afon Dwyryd.

Cafwyd cyhoeddiad gan y cyngor na fyddai'r bont yn ailagor nes Mehefin 2015, bedwar mis yn hwyrach na'r disgwyl.

Doedd dim sylw gan gwmni Hochtief ond dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae hi'n anorfod bod oedi na ellir ei osgoi ar brosiectau cymhleth fel hyn ac mae hi'n hynod siomedig fod y dyddiad gorffen yn hwyrach na'r disgwyl. Gallwn ni ond ymddiheuro i drigolion yr ardal."

Mae trigolion lleol yn amau na fydd y gwaith yn cael ei gwblhau erbyn mis Mehefin er gwaethaf addewidion Hochtief.

Dywedodd Bryn Williams, un o'r protestwyr: "Does neb am gymryd cyfrifoldeb. Does dim gwybodaeth wedi cael ei roi i ni ac mae'r peiriannau yno ar stop ers tro."

"Nid yw hi'n ddiogel i ddefnyddio'r peiriannau os oes gwynt o 15 milltir yr awr neu'n fwy. Mae synnwyr cyffredin yn dweud y bydd pethau'n parhau i fod ar stop trwy'r Gaeaf felly.

"Ni fydd y tywydd yn caniatáu iddi gael ei chwblhau ar amser ond mae pawb yn gwadu hynny."

'Hynod siomedig'

Yn dilyn cyfarfod rhwng cynghorwyr Penrhyndeudraeth a Harlech, Gareth Thomas, Caerwyn Roberts a Hochtief ar Hydref 16, dywedodd Plaid Cymru: "Nid oedd natur y drafodaeth gyda Hochtief yn swnio'n addawol. Nid oedd arwydd eu bod am dderbyn ein safbwynt na'n galwad am adeiladu pont dros dro.

"Rydym fel Cynghorwyr Plaid Cymru dros yr ardal yn hynod siomedig gydag agwedd y cwmni."

Mae "dicter mawr yn y cylch" a "cholli ffydd" yn ôl Caerwyn Roberts.

Mae'r cynghorydd yn galw am ymchwiliad arbennig ac adolygiad trylwyr a llawn ar gontract y cwmni Almaeneg Hochtief, sy'n gyfrifol am waith ar y bont.

Ychwanegodd Caerwyn: "Mae Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am ddewis y contractwyr, dyna lle maen nhw ar fai. Mae'r contractwyr yma wedi mynd dros amser ar brosiect cyffelyb yn Evesham, Swydd Gaerwrangon."

Mae'r oedi'n achosi effaith ar drigolion a busnesau lleol gan orfodi pobl i deithio 16 milltir yn ychwanegol bob dydd i'r gwaith.

Bydd protest yn cael ei chynnal gan Bryn Williams, dyn lleol sy'n rhannol ddall a rwystrwyd rhag croesi'r bont, gyda'r bwriad o ddangos anfodlonrwydd yn lleol ar y penderfyniadau.

"Dwi'n teithio drosti i Fangor ers 24 o flynyddoedd ac wedi cerdded drosti fwy na neb, yng nghanol nos hefyd. Cefais fy rhwystro rhag cerdded drosti rhai wythnosau'n ôl a buont yn ddigon bygythiol efo fi.

"Roedd rhwystrau arni a chefais fy ngyrru trwy Faentwrog ar hyd yr A496, 8 milltir ar droed heb balmant yn hytrach na chael croesi. Beth oedd fwyaf diogel? "

Disgrifiad o’r llun,
Mae diogelwch dargyfeiro yn cael ei gwestiynu

'Busnesau'n dioddef'

Meddai Celt Roberts o Harlech: "Mae economi'r ardal yn bur fregus ac mae'r sefyllfa bresennol yn gwneud mawr ddrwg.

"Mae effaith mawr ar fusnes lleol gyda chynulleidfaoedd yn ailystyried mynychu digwyddiadau yn Theatr Harlech oherwydd natur y siwrnai."

Mae'r ardal leol yn "flin ofnadwy" am y sefyllfa ac yn galw am newid.

"Dim siarad sydd ei angen nawr ond gweithredu", medd Bryn Williams.

Ychwanegodd: "Does neb am gymryd cyfrifoldeb dros y camgymeriadau. Mae swyddogion ofn cysgod eu hunain."

Bydd trigolion lleol yn protestio ar y bont, sydd wedi ei rhwystro ar hyn o bryd, ddydd Sul er mwyn dangos "dicter mawr y cylch" am y sefyllfa.