Cynlluniau i ddymchwel y Coliseum
- Published
Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn cais i ddymchwel adeilad yr hen Coliseum ym Mhorthmadog.
Roedd y sinema 80 oed, a gaeodd bedair blynedd yn ôl, wedi bod ar werth am bron i flwyddyn. Mae'n aneglur beth fydd yn digwydd i'r safle.
Roedd ymgyrchwyr lleol wedi gobeithio i'r hen sinema gael ei gadw ar gyfer defnydd y gymuned leol, ond penderfynodd y cyfranddalwyr i werthu'r adeilad hanesyddol i ddatblygwr preifat.
Ceisiodd y grŵp godi digon o arian i ailagor y Coliseum, ond mae'r grŵp hwnnw bellach wedi cael ei ddirwyn i ben.
Pobl Porthmadog yn siomedig
Dywedodd y cynghorydd lleol Selwyn Griffiths: "Rwyf wedi bod yn ceisio cael gwybod beth sy'n mynd ymlaen, ond does neb yn ymddangos i wybod."
Roedd Mr Griffiths yn credu y gallai'r adeilad gael ei droi i fod yn dŷ tafarn.
Dywedodd y cyflwynydd Dyl Mei, sydd a'i wreiddiau yn ardal Porthmadog: "Pan o'n i'n blentyn, roedd mam yn arfer gweithio yn y Coliseum, ac roeddwn wastad yn mynd yno pan oedd hi yn gweithio i weld y ffilmiau diweddara.
"Mae'n bechod mawr," meddai, "ond beth bynnag ddigwyddith, dwi'n gobeithio y caiff tu blaen nodedig 'art deco' yr adeilad ei gadw fel y mae o."
Mae Cyngor Gwynedd yn dweud y bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ar ôl ymgynghoriad sy'n para 14 diwrnod, ac sy'n cychwyn heddiw.
Straeon perthnasol
- Published
- 12 Gorffennaf 2012
- Published
- 23 Medi 2011
- Published
- 29 Mawrth 2011
- Published
- 25 Ionawr 2011
- Published
- 1 Mawrth 2007