Y pêl-droediwr Ched Evans wedi ei ryddhau o'r carchar
- Published
Mae cyn ymosodwr Sheffield United a Chymru, Ched Evans, wedi ei ryddhau o'r carchar ar ôl cwblhau hanner ei ddedfryd o bum mlynedd am dreisio.
Cafodd Evans, 25 oed, ei garcharu yn 2012 ar ôl i reithgor ei gael yn euog o dreisio dynes mewn gwesty ym mis Mai 2011.
Fe wnaeth Evans adael carchar Wymott yn Sir Gaerhirfryn mewn car am tua 05:30 fore Gwener.
Mae rheolwr Sheffield United, Nigel Clough, wedi cynnal trafodaethau gyda swyddogion y clwb ynglŷn â'r posibiliad o ail-gyflogi Evans, ond mae ymgyrchwyr yn dweud y byddai hynny yn rhoi'r neges anghywir i'r cyhoedd.
Trafodaethau
Ymunodd Evans â Sheffield United yn 2009 am £3 miliwn, yn dilyn cyfnodau gyda Manchester City a Norwich.
Mae wedi chwarae 13 o weithiau dros Gymru, a sgoriodd 48 o goliau mewn 113 o gemau i Sheffield United, cyn cael ei garcharu.
Ni chafodd Evans ei ddiswyddo ar ôl ei ddedfryd, ond penderfynodd y clwb beidio ag adnewyddu ei gytundeb tra'r oedd yn y carchar.
Yr wythnos hon, dywedodd Mr Clough: "Rydyn ni wedi cael un neu ddau o drafodaethau a bydd y perchnogion yn penderfynu.
"Mae o uwchben lefel pêl-droed. Os yw'n dod yn ôl yna byddwn ni [staff hyfforddi] yn penderfynu os ydyn ni am iddo chwarae eto neu beidio."
'Esiampl'
Ond mae bron i 150,000 o bobl wedi arwyddo deiseb ar lein yn annog y clwb i beidio ei dderbyn yn ôl.
Mae'r dirprwy prif weinidog, ac AS Sheffield Hallam, Nick Clegg, wedi annog perchnogion y clwb i feddwl yn ofalus iawn cyn ail-gyflogi Evans.
"Pan rydych chi'n cyflogi pêl-droediwr, nid pêl-droediwr yn unig yw hynny, mae hefyd yn esiampl."
Yn gynharach yn y mis, dywedodd pennaeth Cymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol (PFA), Gordon Taylor, y dylai Evans gael yr hawl i chwarae eto ar ôl cwblhau ei ddedfryd.
Ond mae elusennau trais yn dadlau y byddai hynny yn gyrru'r negeseuon anghywir i'r cyhoedd ynghylch y drosedd o dreisio.
Nid yw Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gwneud sylw ar y mater, ond dywedodd rheolwr Cymru, Chris Coleman ym mis Awst bod angen trafodaeth am ddyfodol Evans.
Straeon perthnasol
- Published
- 9 Hydref 2014
- Published
- 27 Awst 2014