Dynes yn euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder achos Mullany
- Cyhoeddwyd

Roedd Ben a Catherine Mullany ar eu mis mêl pan gawson nhw eu saethu yn Antigua
Mae dynes wedi ei chael yn euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder yn achos llofruddiaeth cwpl o Gymru yn Antigua yn 2008.
Cafodd Ben a Catherine Mullany eu saethu gan Avie Howell a Kaniel Martin tra oedden nhw ar eu mis mêl ar yr ynys ym mis Gorffennaf 2008. Bu farw'r ddau yn ddiweddarach.
Penderfynodd rheithgor ddydd Gwener bod Georgette Aaron wedi dweud celwydd am ble'r oedd Howell a Martin pan gafodd y cwpl eu saethu.
Bydd Aaron yn cael ei dedfrydu ar 31 Hydref, a chafodd ei chadw yn y ddalfa.
Bu farw Avie Howell, 24 oed, yn gynharach yn y flwyddyn wedi iddo gael ei saethu gan yr heddlu ar ôl dianc o'r carchar.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Awst 2008
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2014