Llofruddiaeth Wrecsam: Cadw yn y ddalfa

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn o Wrecsam wedi ymddangos yn Llys y Goron yr Wyddgrug wedi eu cyhuddo o lofruddio dyn 25 oed yn y dref ddydd Sadwrn.

Cafodd Anthony James Munkley, 53 oed, a Lee Michael Roberts, 32 oed, eu cadw yn y ddalfa tan iddyn nhw gyflwyno ple mewn gwrandawiad yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Bu farw Sion Craig Davies, 25, yn dilyn digwyddiad ar Deva Way ar stad Parc Caia.

Does dim dyddiad wedi ei bennu ar gyfer yr achos llawn ar hyn o bryd.

Cafodd dwy ddynes eu rhyddhau ar fechnïaeth ddydd Mawrth wedi iddyn nhw gael eu holi gan Heddlu Gogledd Cymru ynglŷn â'r digwyddiad.