40 Mas o 40 i Ysgol Llanhari!
- Cyhoeddwyd

Mae un o ysgolion Cymraeg y de yn nodi carreg filltir bwysig ar Hydref 17. Mae hi'n ddeugain mlynedd ers i Ysgol Gyfun Llanhari agor ei drysau am y tro cyntaf.
Un o'r cyn-ddisgyblion yw Catrin Heledd, gohebydd Chwaraeon BBC Cymru. Mae hi'n hel atgofion gyda BBC Cymru Fyw am ei chyfnod yn yr ysgol:
Teulu
Bron i bymtheg mlynedd ers i mi adael Llanhari (na dwi ddim cweit mor hen â Phobol y Cwm eto!) dwi'n dal i feddwl am fy hun fel aelod o'r "teulu - teulu Llanhari". A dyna sy'n od am yr ysgol sy'n trigo yn y pentre o'r un enw - dwi'n meddwl bod bron i bob un disgybl sy' 'di bod drwy'r gatiau yn ystod y deugain mlynedd ddwetha' yn dal i deimlo rhyw fath o deyrngarwch at y lle.
Hyd yn oed y rhai oedd yn mynnu bod 'na "mor gymaint o reolau, rhai weithiau mae just yn rhy gormod i fi" (Chwarae teg i Mr Jones, ar ôl 4 awr o geisio gloywi iaith 7p - nath e ddim taflu Chris druan allan o'r dosbarth gerfydd ei glust).
O fynd "lan y fields", "ar y redgra", "yn y sandpits" neu i'r "cowshed for MOCS" ma' 'na, fel ym mhob ysgol, derminoleg fydd ond y rheiny a'th i Lanhari yn ei ddeall. Dim ond y rhai dethol yn ein plith fydd yn cofio'r "Vegetable Fun Bus" hefyd (a'r c'wilydd o droi lan mewn gemau pêl rwyd/rygbi ynddo fe)!
Llwyddiant
A ma 'na griw dethol iawn 'di crwydro'r coridorau dros y blynydde.... Aneurin Barnard, er enghraifft, odd i'w weld yn y gyfres Cilla ar ITV yn ddiweddar, Bethan Ellis Owen, Kate Jarman a Lauren Phillips a'th i Gwmderi heb sôn am chwaraewyr rygbi ac athletwyr fel Scott Gibbs ac Aled Sion Davies!
Fel pob teulu da ma'r gweddill ohonom fel modrybedd ac ewyrthod - yn ymfalchïo yn llwyddiant ein perthnasau pell, yn ein cefndryd a'n cyfneithirod coll - hyd yn oed os nad o'n ni'n yr ysgol yr un pryd â nhw... "o ie, o'n i'n ysgol 'da fe - nid ar yr un amser fel... ond... dal yn Llanhari".
'Penteulu unigryw'
Rhaid dweud - yn ystod fy nghyfnod i yno - roedd yna benteulu unigryw wrth y llyw. Peter Griffiths. Y pennaeth fyddai'n llwyddo i gyfarch pob un plentyn wrth ei enw cynta' - dros fil dau gant ohonom i gyd. A tasai'n anghofio am unrhyw reswm, "Helo ferched Cymru" fyddai'n adleisio drwy'r coridorau!
Roedd e'n ddyn nath lwyddo (gyda thîm rheoli gwych, rhaid dweud) i gael y disgyblion fwya gwyllt i "gerdded ymlaen" ac i deimlo bod ganddyn nhw gyfraniad i'w wneud - i Lanhari ac i Gymru.
Cyfnod hapus
Fel o'n i'n sôn, dwi ddim mor hen â Phobol y Cwm ond mae'n ysgol lle dreuliais i saith mlynedd hapus iawn! A fel pob un opera sebon da - ma 'na gymeriadau lliwgar 'di bod yn rhan o stori Llanhari - yn ddisgyblion ac yn athrawon! (gwell peidio enwi enwau neu fydda i'n y cwrt!)
Mae ambell i sgandal 'di bod hefyd fyddai'n tynnu dŵr i ddannedd sgriptwyr PYC ond rhwng gŵyr Llanhari a'i gilydd ma' rheiny!!!!
Pen-blwydd Hapus Ysgol Gyfun Llanhari!