Llun Kyffin Williams wedi cael ei ddwyn o Lundain
- Published
Mae un o luniau'r arlunydd enwog Kyffin Williams wedi cael ei ddwyn o'r Southbank Centre yn Llundain.
Fe ddaeth aelod o staff o hyd i ffrâm y llun yn un o doiledau'r ganolfan.
Landscape At Llanaelhaearn yw enw'r llun ac mae arbenigwyr yn credu ei fod werth swm sylweddol o arian.
Cafodd ei baentio gan Kyffin Williams yn 1947 ac mae'n dangos dyn yn pwyso ar garreg, tra'n cerdded tuag at neu'n gwerthfawrogi golygfa wledig hardd.
Roedd y llun wedi bod yn cael ei arddangos mewn stafell 'ddiogel' ar bumed llawr adeilad y Royal Festival Hall, lle'r oedd ar fenthyg o Gasgliad Cyngor Celfyddydau Lloegr ers Tachwedd 2013.
Mae'r llun wedi cael ei ddwyn ers mis Medi, yn ôl Heddlu'r Metropolitan yn Llundain.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Ray Swan o adran Celf ac Antiques y llu: "Mi fydd pwy bynnag wnaeth ddwyn y llun hwn mwy na thebyg yn ceisio'i werthu.
"Rydw i'n gofyn i unrhyw un sy'n cael cynnig y llun i ddweud wrthon ni ar unwaith neu i gysylltu â ni os ydyn nhw'n gwybod unrhyw beth am y dyn neu lle mae'r llun erbyn hyn."