Y Sipsi: Teulu Abram Wood

  • Cyhoeddwyd
Teleri GrayFfynhonnell y llun, Issac Blake
Disgrifiad o’r llun,
Mae Teleri Gray yn un o ddisgynyddion Abram Wood

"Carafan mewn cwr o fynydd, newid aelwyd bob yn eilddydd" - mae cenhedlaethau ohonon ni'n gyfarwydd â cherdd Crwys, Y Sipsi. Ond sut brofiad ydi bod yn Sipsi go iawn?

Mae Teleri Gray, o Gaerdydd, yn gwybod o brofiad gan ei bod hi'n un o ddisgynyddion Abram Wood, "Brenin y Sipsiwn".

Wrth i gynhadledd i drafod bywyd y Sipsiwn, y Romani a'r Teithwyr gael ei chynnal yng Nghaerdydd ar 20 Hydref, mi fu BBC Cymru Fyw yn holi Teleri am fywyd y Sipsiwn:

Beth yw eich cefndir?

"Roedd fy nhad yn gweithio yn y brifysgol pan gyfarfodd â fy mam, Eldra, mewn dawns ym Mangor. Fy mam oedd y Sipsi, ac yn dod o ardal Bethesda. Hi oedd testun y ffilm 'Eldra' ar S4C rai blynyddoedd yn ôl.

Ffynhonnell y llun, You Tube
Disgrifiad o’r llun,
Golygfa o'r ffim 'Eldra'

"Daeth fy nghyndeidiau, sef Abram a Sara Wood i Gymru o Ewrop tua 1740, yr unig iaith oeddynt yn ei siarad oedd Romani, ond ar ôl bod yma am gyfnod, fe ddysgon nhw siarad Cymraeg.

"Cerddor oedd Abraham, ac roedd yn mynd o amgylch y wlad yn diddanu pobl drwy chwarae'r ffidl.

"Roedd gan Abram a Sara nifer o blant, ac roedd gan eu plant nhw nifer o blant.

"Bryd hynny roedd cefndryd a chyfneitherod yn priodi eu gilydd er mwyn cadw gwaed y Romani yn gryf."

Ffynhonnell y llun, Hefin Richards
Disgrifiad o’r llun,
Mae'n debyg mai hon yw carreg fedd Abram Wood "Brenin y Sipsiwn" yn Llangelynnin, Gwynedd. Bu farw yn Nhachwedd 1799

Beth oedd eu gwaith?

"Roedd rhai yn gerddorion proffesiynol, fel John Roberts, oedd yn delynor i'r frenhines Fictoria, roedd rhai eraill yn gweithio ar ffermydd yn torri gwair, lladd llygod mawr ac ati."

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng Romani, Sipsi a Theithiwr?

"Wel yn syml, y Sipsi ydi'r person, a'r ffordd o fyw. Romani oedd Abram Wood, ac roedd y bobl Romani yn tarddu o ddwyrain Ewrop.

"Daeth y Teithwyr i Brydain ar ôl y newyn tatws yn Iwerddon, ac fel arfer mae ganddyn nhw wallt coch, lle mae gan Romani wallt a phryd tywyll."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Aelodau o deulu'r Boswells, wynebau cyfarwydd ar ddiwrnod y 'Derby' yn Epsom

Beth ydych chi eisiau i bobl wybod am y gymuned Romani?

"Dyw pawb ddim yn ymwybodol fod y Sipsi yma ers bron i 300 o flynyddoedd, ac fe hoffwn i bobl wybod pa mor hir mae teuluoedd fel y Woods, y Lees, y Locks a'r Boswells wedi bod yma, ac ein bod yn cael y parch a'r gydnabyddiaeth am hynny.

"Ac mae'r 'New Age Travellers' 'ma mae pobl yn weld yn symud o un maes parcio i'r llall yn dod ag enw drwg i'r Sipsiwn a'r Teithwyr, gan eu bod yn gadael llanast a sbwriel lle bynnag maen nhw yn mynd. Roedd y Sipsiwn yn arfer llosgi unrhyw sbwriel oedd ganddyn nhw cyn symud ymlaen."

Ydi pobl wedi'ch trin yn wahanol?

"Dydw i'n bersonol heb gael fy nhrin yn wahanol. Rwyf wedi fy magu i ddod ymlaen ag unrhyw un. Chefais i ddim fy magu mewn gwersyll Sipsi, felly dwi ddim yn gwybod os yw hynny wedi cael effaith ar y ffordd mae pobl wedi fy nhrin."

Ydi'r Sipsi traddodiadol yn parhau i symud o amgylch y wlad?

"Na, ddim gymaint, does dim llawer o lefydd iddyn nhw fynd, oni bai eu bod yn mynd i wersyll Sipsi sefydlog. Ers talwm roedden nhw yn gallu gwersylla lle bynnag roeddyn nhw eisiau, wrth afon neu nant gan amlaf, ond does ganddyn nhw ddim hawl i wneud hynny bellach."

Disgrifiad o’r llun,
Ronnie Wood - un arall o ddisgynyddion Abram?

Oes 'na ardaloedd yng Nghymru lle mae mwy o Sipsiwn wedi ymgartrefu?

"Mae 'na nifer o Sipsiwn yn ardaloedd Caerdydd, Pontypwl, Abertawe a Sir y Fflint. Roedd na dipyn o'r Woodiaid wedi ymgartrefu yn y Drenewydd. Dwi wedi ffendio tua 10 cefnder ar Facebook. Mae rhai ohonyn nhw'n byw mor bell ag America ac Awstralia."

"Mae Ronnie Wood o'r Rolling Stones yn Sipsi, ac rydym ar hyn o bryd yn trio darganfod ym mha ffordd rydy' ni yn perthyn."

Ydi rhaglenni teledu fel y 'Big Fat Gypsy Wedding' yn portreadu bywyd y Sipsi?

"Dim o gwbl, 'di'r rhaglenni yma yn adlewyrchu dim o fywyd a thraddodiadau y Sipsiwn. Dim ond cyfle i bobl ddangos eu hunain a'u cyfoeth yw'r cyfresi yma."

Ffynhonnell y llun, Channel 4
Disgrifiad o’r llun,
Dydi rhaglenni fel "Big Fat Gypsy Wedding" ddim yn adlewyrchiad teg o fywyd y Sipsi meddai Teleri

Ydi hi'n wir fod y Sipsi yn dewis byw tu allan i gymunedau poblog?

"Na, dim o gwbl, mae'r Sipsiwn wedi bod yn rhan o'r gymuned yng Nghymru ers cyn cof, ac yn cael croeso mawr ymhob ardal."

Oes 'na bwysau ar y Romani i briodi oddi fewn i'r gymuned heddiw?

"Na, nid o fy mrofiad i, mi briodais i ddyn nad oedd yn Sipsi."

Beth yw amcanion y gynhadledd?

"Hoffwn i iddi fod yn ddechrau i wella dealltwriaeth pobl o'r gymuned ac etifeddiaeth Romani, a chodi ymwybyddiaeth am ein ffordd o fyw. Cafodd nifer o hawliau'r Sipsiwn eu tynnu'n ôl yn ystod y ganrif ddiwethaf, ac hoffwn weld yr hawliau rheini yn cael eu rhoi yn ôl."

Ffynhonnell y llun, Isaac Blake
Disgrifiad o’r llun,
Mae Teleri wedi bod yn dysgu pobl am draddodiadau ac arferion y Sipsi