Sieciau Dylan Thomas ar werth mewn ocsiwn yn Llundain
- Cyhoeddwyd
Bydd trysorau sy'n gysylltiedig â Dylan Thomas ar werth yn neuadd arwerthu Bonhams yn Llundain ar 12 Tachwedd.
Ymysg y trugareddau fydd dwy siec fownsiodd, wedi eu harwyddo y bardd Dylan Thomas, i berchennog ei dafarn leol.
Mae'r sieciau £3 wedi eu gwneud yn daladwy i Phil Richards, sef perchennog Tafarn y Cross, un o hoff dafarndai'r bardd yn Nhalacharn, Sir Gaerfyrddin.
Mae Bonhams yn amcangyfrif fod gwerth y sieciau yma oddeutu £3,000.
Roedd y Cross House Inn yn un o gyrchfannau rheolaidd Thomas pan oedd yn byw yn Nhalacharn rhwng 1949-1953.
Cyrchfan yfed
Yn ôl pob tebyg, mae'r dafarn, sy'n fwy adnabyddus fel Gwesty'r Brown yn y dref, wedi cyfrannu at y lleoliad ffuglennol ar gyfer y ddrama radio, Under Milk Wood.
Dyma'r sieciau olaf i'r bardd eu hysgrifennu ychydig wythnosau cyn iddo farw ar daith yn America ar 9 Tachwedd, 1953.
Cafodd y sieciau eu tynnu mewn cangen o Fanc Barclays yn Llundain, lle oedd y bardd yn byw ac yn gweithio, a lle cafodd y rhan helaeth o Under Milk Wood ei ysgrifennu.
Hefyd ar werth bydd copi o'r argraffiad cyntaf o gyfrol 'Collected Poems' y bardd sydd wedi ei ddyddio Tachwedd 1952 - y mis â'i cyhoeddwyd.
Mae disgwyl i'r llyfr gyrraedd amcan bris o £1,000 i £1,500.
Mae trydedd eitem fydd ar werth, sef llawer o ffotograffau, llyfrau llofnodi a phethau cofiadwy eraill wedi cael amcan bris o £600 i £800.
Straeon perthnasol
- 15 Gorffennaf 2014
- 28 Chwefror 2014