Ymchwil gwyddonydd o Brifysgol Bangor i dywydd eithafol
- Cyhoeddwyd

Fe all iâ sy'n toddi yn yr Arctig achosi cyfnodau o dywydd eithafol yn y DU, yn ôl un gwyddonydd o Gymru.
Yr Athro Tom Rippeth o Brifysgol Bangor fydd un o brif siaradwyr mewn gweithdy yn yr Unol Daleithiau sy'n ymchwilio i'r effaith tebygol y bydd colli ia yn gyfan gwbl o Fôr yr Arctig yn ystod yr haf yn ei gael.
Yn ôl arbenigwyr mae effaith cynhesu byd eang yn yr Arctig ddwywaith cyfartaledd yr effaith ar weddill y byd.
Mae'r Athro Rippeth o'r farn y bydd hynny'n golygu y bydd Môr yr Arctig yn fwy tymhestlog a bydd hynny yn cael effaith ar gerrynt, fel Llif y Gwlff.
Yn ei dro mae Llif y Gwlff yn cael dylanwad enfawr ar dywydd y DU.
Mae'r gwyddonydd yn un o 12 sydd wedi eu gwahodd i siarad yng nghyfarfod Pwyllgor Gwyddoniaeth yr Arctig yn Massachusetts.
Mae lefelau isel o iâ yn yr Arctig yn cael eu cysylltu gyda chyfnodau mwy eithafol yn nhywydd hemisffer y gogledd, gan gynnwys nifer o hafau gwlyb a gaeafau caled yn y DU.
Dywedodd yr Athro Rippeth fod haen o iâ yn bwysig wrth gadw Môr yr Arctig yn gymharol dawel i gymharu â moroedd eraill.
"Y pryder mawr yw y bydd diflaniad yr iâ yn arwain at gefnfor sy'n fwy tymhestlog, a bydd hynny yn ei dro yn cael effaith ar gynhesrwydd yr Arctig, a cherrynt sy'n cysylltu Môr yr Arctig gyda'r Môr Tawel," meddai.
"Gallai diflaniad rhew o Fôr yr Arctig, er enghraifft, fod â dylanwad mawr ar rai o brif gerrynt yr ardal, gan gynnwys Llif y Gwlff."