Caerdydd 2 - 1 Nottingham Forest

Russell Slade Image copyright Getty Images
Image caption Hon oedd gêm gynta' Russell Slade wrth y llyw yng Nghaerdydd

Caerdydd 2 - 1 Nottingham Forest

Fe gafodd Russell Slade y dechrau delfrydol yn ei swydd newydd fel rheolwr Caerdydd, wrth i'r Adar Gleision drechu Nottingham Forest yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Federico Macheda oedd y cyntaf i sgorio i Gaerdydd wedi 20 munud, ac fe ddyblodd Peter Whittingham fantais y tîm cartref saith munud yn ddiweddarach.

Ym munudau ola'r gêm, fe lwyddodd Britt Assombalonga i gau'r bwlch i Forest.

Wedi 12 gêm yn y Bencampwriaeth y tymor hwn, mae Caerdydd wedi dringo i'r 11eg safle.