Ched Evans: Sheffield 'yn dal i drafod'
- Published
Mae Sheffield United yn "parhau i drafod eu penderfyniad hirdymor am Ched Evans" wedi iddo gael ei ryddhau o'r carchar.
Ym mis Ebrill 2012, cafodd Evans, 25 oed, ei ddedfrydu i bum mlynedd dan glo wedi i reithgor ei gael yn euog o dreisio menyw mewn gwesty yn Y Rhyl.
Fe gafodd ei ryddhau o garchar Wymott ddydd Gwener wedi hanner ei ddedfryd.
Ddydd Sadwrn, roedd erthygl yn The Sun yn honni fod y Cymro wedi cael cynnig cytundeb am ddwy flynedd.
Ond yn ôl y clwb, mae'r adroddiad hwnnw "yn gamarweiniol ac andwyol".
Fe ymunodd Evans â Sheffield United o Manchester City yn 2009.
Wedi iddo gael ei ganfod yn euog, wnaeth y clwb ddim adnewyddu ei gytundeb ddiwedd y tymor hwnnw.
Mae disgwyl i Evans wneud "datganiad personol iawn" ar ei wefan yr wythnos hon.
Mae mwy na 150,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn annog Sheffield United i beidio â'i gymryd yn ôl.
Fe ddywedodd rheolwr y clwb, Nigel Clough wrth BBC Radio Sheffield ddydd Mercher: ""Rydan ni wedi trafod y mater a'r perchnogion fydd yn penderfynu.
"Mae'n fater sydd uwchben lefel pêl-droed. Os yw'n dychwelyd byddwn ni (staff hyfforddi) yn penderfynu os y bydd yn chwarae ai peidio."
Straeon perthnasol
- Published
- 17 Hydref 2014
- Published
- 15 Hydref 2014
- Published
- 9 Hydref 2014
- Published
- 27 Awst 2014