Gleision Caerdydd 37-14 Grenoble

  • Cyhoeddwyd
Matthew Rees takes on GrenobleFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Gleision Caerdydd 37-14 Grenoble

Ar benwythnos cyntaf Cwpan Her Ewrop, fe gafodd Gleision Caerdydd bwynt bonws mewn buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Grenoble.

Fe sgoriodd Rhys Patchell a Lloyd Williams gais yr un yn yr hanner cyntaf, a chafodd Sam Warburton, Richard Smith a Josh Turnbull un yr un, hefyd.

Rhys Patchell oedd yn gyfrifol am weddill pwyntiau'r Gleision - fe drosodd y maswr dri chais ag aeth dwy gic gosb rhwng y pyst.