Lincoln 1-1 Wrecsam
- Published
image copyrightlessopix
Lincoln 1-1 Wrecsam
Fe ddaeth gôl hwyr gan eilydd Lincoln, Alan Power, â gobaith Wrecsam am fuddugoliaeth i ben.
Roedd gôl-geidwad y Dreigiau, Andy Coughlin wedi rhwystro tair ymgais gan Lincoln, cyn i'r ymwelwyr fynd ar y blaen.
Fe sgoriodd Elliott Durrell ei drydedd gôl yn y Gyngres y tymor hwn, 10 munud cyn hanner amser.
Bu ond y dim i Wes York a Connor Jennings sgorio eto i Wrecsam, ond Lincoln oedd yr unig dîm i sgorio yn yr ail hanner - pan lwyddodd Power i fynd heibio Coughlin wedi 83 munud.