Dagenham & Redbridge 0-1 Casnewydd
- Published
image copyrightHuw Evans picture agency
Dagenham & Redbridge 0-1 Casnewydd
Bu'n rhaid i Gasnewydd tan funud ola' eu gêm yn erbyn Dagenham & Redbridge i sicrhau buddugoliaeth yn yr Ail Adran.
Chris Zebroski sgoriodd unig gôl y gêm.
Roedd yn rhaid i'r tîm cartref gwblhau'r gêm gyda 10 dyn, wedi i Abu Ogogo gael ei anfon o'r cae am gwffio wedi 79 munud.
Wedi dwy fuddugoliaeth o'r bron, mae Casnewydd yn codi i'r nawfed safle yn yr Ail Adran.