Stade Francais 22-38 Dreigiau

Richie Rees celebrates Image copyright Huw Evans agency
Image caption Richie Rees sgoriodd gais cynta'r Dreigiau

Stade Francais 22-38 Dreigiau

Fe gafodd y Dreigiau bwynt bonws ar eu hymweliad â Pharis ar benwythnos cyntaf Cwpan Her Ewrop.

Mewn gêm gyffrous, fe lwyddodd y Dreigiau i drechu Stade Francais yng ngrŵp tri.

Richie Rees, T Rhys Thomas, Hallam Amos a Nic Cudd oedd yn gyfrifol am bedwar cais yr ymwelwyr.

Meyer Bosman sgoriodd unig gais Stade, gafodd ei drosi gan Morne Steyne, ac fe sicrhaodd Vincent Mallet bum cic gosb.

Rhoddodd Angus O'Brien fantais gynnar i'r Dreigiau gyda chic gosb.

Ond yn fuan, fe darodd Stade yn ôl, gan fynd ar y blaen 12-3.

Fe gafodd y Dreigiau gyfnod heb Boris Stankovich - gafodd gerdyn melyn am dacl uchel. Ond daeth dau gais i'r ymwelwyr yn y cyfnod hwnnw.

Er i Stade gychwyn yr ail hanner yn hyderus, roedd y Dreigiau ar dân yn chwarter ola'r gêm, a daeth cais ola'r ymwelwyr wedi 76 munud i sicrhau'r pwynt bonws.