Ymchwiliad i achos Ched Evans ar droed
- Cyhoeddwyd
Mae'r corff sy'n ymchwilio i achosion posibl o gamweinyddu cyfiawnder yn dweud y bydd yr ymchwiliad i achos cyn bêl-droediwr Cymru, Ched Evans yn dechrau o fewn wythnosau - yn hytrach na mewn misoedd - sy'n arferol ar gyfer achosion o'r fath.
Fe gafodd ei ryddhau o'r carchar ddydd Gwener, ar ôl treulio dwy flynedd a hanner dan glo am dreisio dynes mewn gwesty yn Y Rhyl.
Roedd Evans wedi gwadu'r cyhuddiad yn ei erbyn, ond fe gafodd ei ganfod yn euog gan reithgor yn Llys y Goron Caernaron.
Mae'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol yn mynnu nad yw hyn yn adlewyrchiad o ba mor gryf y gall ei achos e fod.
Mae'r corff yn dweud ei fod yn gweithredu - yn rhannol - oherwydd "materion gafodd eu codi" gan dîm cyfreithiol Evans.
Cais i flaenoriaethu
Fe ddywedodd llefarydd ar ran y corff wrth The Observer eu bod nhw wedi disgwyl "oedi sylweddol" cyn i'r ymchwiliad ddechrau, ond daeth cais gan gyfreithwyr y pêl-droediwr i flaenoriaethu'r achos.
Fe ddywedodd y llefarydd: "Yn unol â'n polisi blaenoriaethu, ac ynghlwm â ffeithiau'r achos a'r materion godwyd gan gais Mr Evans... 'Dy ni nawr yn disgwyl i'r ymchwiliad ddechrau yn yr wythnosau i ddod".
Ychwanegodd: "Mae'r penderfyniad i flaenoriaethu'r achos yn dod â ni at y cam cyntaf o benderfynu oes 'na sail i ni gyfeirio'r achos i'r Llys Apêl
"Dyw e ddim - mewn unrhyw ffordd - yn cynrychioli barn y comisiwn ar ba mor gryf y gall achos fod."
Mae 'na ddadlau wedi bod ynghylch dyfodol Evans, wrth i'w gyn-glwb, Sheffield United bendroni a ddylen nhw ail-gyflogi'r Cymro.
Mae mwy na 150,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn annog y clwb i beidio â'i gymryd yn ôl.
Mewn datganiad, fe ddywedodd Sheffield United eu bod nhw'n "parhau i drafod".
Straeon perthnasol
- 17 Hydref 2014
- 15 Hydref 2014
- 9 Hydref 2014
- 27 Awst 2014