Tân ar 'Chippy Lane' yng Nghaerdydd
- Published
image copyrightBecky Lee
Fe gafodd pobl ar noson allan yng Nghaerdydd eu rhwystro rhag cerdded ar un o strydoedd enwoca'r ddinas nos Sadwrn oherwydd tân mewn siop sglodion.
Fe gaeodd heddlu ran o Caroline Street - neu 'Chippy Lane' - wrth i griwiau geisio diffodd y tân, ddechreuodd tua 9:30pm.
Bu criwiau o ganol Caerdydd, Y Rhath, Trelái a'r Barri yn ceisio diffodd y fflamau, wedi i dân gynnau mewn popty coginio sglodion.
Chafodd neb eu hanafu.