Gwasanaeth Iechyd: 'Angen trafodaeth aeddfed'
- Cyhoeddwyd

Mae Gweinidog Iechyd Cymru, Mark Drakeford wedi galw am drafodaethau "aeddfed" trawsbleidiol, am newidiadau i'r gwasanaeth iechyd.
Mewn cyfweliad â Sunday Politics Wales, fe gadarnhaodd ei fod wedi trafod gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru am gomisiwn trawsbleidiol ar y GIG.
Daw hyn yn dilyn argymhelliad gan y Swyddfa Archwilio y dylid cynnal trafodaeth ar faint o arian all llywodraeth Cymru fforddio ei wario ar iechyd.
Fe rybuddiodd Huw Vaughan Thomas, yr Archwilydd Cyffredinol, am yr effaith ar wasanaethau eraill petai'r GIG yn parhau i gymryd rhan mor fawr o'r gyllideb.
Paratoi cynlluniau
Yn ôl y Gweinidog Iechyd, mae byrddau iechyd lleol yn paratoi cynlluniau tair-blynedd i ddangos sut mae angen i wasanaethau newid.
"'Dy ni angen dod â'r cyhoedd gyda ni ar y daith 'na," meddai.
"'Dy ni angen gwleidyddion sy'n ddigon aeddfed i gyflwyno'r achos i'r cyhoedd - pam, os ydyn ni am i'r gwasanaeth iechyd barhau i wneud y pethau sydd mor bwysig i'r cyhoedd, yna bydd rhaid i ni fynd ati mewn ffyrdd gwahanol - heb weld pob ymgais i newid fel cyfle cyfleus i neidio ar y drol."
Ychwanegodd y byddai ymchwiliad i'r GIG - rhywbeth mae'r Ceidwadwyr yn galw amdano - yn "amherthnasol ac yn tynnu sylw".
'Trafodaeth aeddfed'
Er hyn, mae'r Athro Drakeford wedi gwahodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams i ehangu ar ei chynnig am gomisiwn trawsbleidiol.
Fe ddywedodd ei fod yn awyddus i gwrdd a thrafod y comisiwn, a pha wahaniaeth y gallai ei wneud.
Ychwanegodd ei fod eisiau gweld "ydi hi'n bosib i rannu a chreu ffordd i gael trafodaeth aeddfed ymysg y pleidiau, ynglŷn â natur newidiol gwasanaethau iechyd yng Nghymru".
Fe alwodd yr Athro Drakeford eto am "ariannu teg" i lywodraeth Cymru gan San Steffan.
Ychwanegodd fod gwasanaethau cyhoeddus angen "cyfran deg" o elw tŵf economaidd.
"Os wnawn ni hynny," meddai, "fe fydd y gwasanaeth iechyd yn parhau i fod yn fforddiadwy yn y dyfodol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2014
- Cyhoeddwyd30 Medi 2014