Archesgob Cymru: ymweld â ffair briodas
- Cyhoeddwyd
Fel arfer, mae parau'n ymweld â ffair briodas i chwilio am syniadau unigryw ar gyfer gwahoddiadau, gwisgoedd, blodau neu gacen.
Ddydd Sul, mae cyfle i gyplau mewn ffair ym Mhen-y-bont ar Ogwr holi dyn sydd â stôr o wybodaeth am seremonïau priodasol - Archesgob Cymru.
Mae Dr Barry Morgan yn rhan o griw o weinidogion lleol ar stonding yn ffair briodas gwesty Heronston yn y dre.
Mae'n dweud ei fod yn gobeithio dangos i bobl "pa mor arbennig" yw priodas eglwys.
"Y dyddiau hyn, mae gan gyplau ddewis eang - lle a sut i briodi," meddai.
"Mae'r Eglwys wedi bod yn y busnes yn hirach na neb a 'dy ni am ddangos i gyplau pa mor arbennig ydi priodas eglwys.
"Felly 'dy ni'n eu hannog i ddod atom ni i weld be' sydd gennym ni i gynnig, a sut y gallwn ni eu helpu nhw.
"Mae ffair briodas yn lle gwych i wneud hyn, a dw i'n edrych ymlaen i gyfarfod pobl."
Mae gweinidogion o'r ardal wedi cynnal stondin yn y ffair ers tair blynedd, bellach,