Tân ar ystad ddiwydiannol yng Ngwent
- Cyhoeddwyd
Fore Sul, fe gafodd diffoddwyr eu galw i ddelio gyda thân ar ystad ddiwydiannol yng Ngwent.
Fe gafodd y gwasanaeth tân ei alw i Chapel Farm yng Nghwmcarn tua 4:30am.
Roedd tua 70 tunnell o ddarnau haearn ynghyn, ac roedd criw o Aberbargoad yn parhau i fod yno am oriau i gadw golwg ar y sefyllfa.
Does dim adroddiadau o anafiadau.