Gweilch 42-7 Treviso
- Cyhoeddwyd

Gweilch 42-7 Treviso
Fe gafodd Dan Evans ddau gais wrth i'r Gweilch sicrhau buddugoliaeth gyfforddus dros Treviso ar benwythnos agoriadol Cwpan Her Ewrop.
Ond doedd yr ymgyrch i ennill pwynt bonws ddim yn fêl i gyd, wrth i'r wythwr, Dan Baker gael ei gludo oddi ar y cae gydag anaf posib i'w wddf.
Dau gais i Dan Evans, felly, ac un yr un i Jeff Hassler, Rhys Webb a Baker.
Fe ddaeth 'na un cais i Treviso ym munudau ola'r gêm, ac fe drosodd Carlisle ymgais Nitoglia i roi saith pwynt i'r ymwelwyr.
Fe welodd Treviso ddau chwaraewr yn cael eu hanfon i'r gell gosb, hefyd.
Dyma seithfed buddugoliaeth y Gweilch o'r bron y tymor hwn.