Toulon 28-18 Scarlets
- Cyhoeddwyd

Toulon 28-18 Scarlets
Er pwyso'n galed, colli oedd hanes y Scarlets yn Toulon ar benwythnos cynta' Cwpan Her Ewrop.
Wedi cais agoriadol Matt Giteau, fe darodd y Scarlets yn ôl gyda chais gan John Barclay.
Ond roedd Toulon yn ôl ar y blaen ymhen dim, diolch i Maxime Mermoz, a daeth trydydd cais i'r tîm cartref gan Steffon Armitage.
Fe frwydrodd y Scarlets i'r eithaf - ac fe lwyddodd Kristian Phillips i sgorio cais ym munudau ola'r gêm.
Yn ei ail gêm i Toulon, fe giciodd seren Cymru a'r Llewod, Leigh Halfpenny ddau drosiad a thair cic gosb.
Fe lwyddodd Rhys Priestland i drosi cais Barclay a dwy gic gosb.
Roedd y Scarlets yn gwisgo bandiau du am eu breichiau, i gofio'u cyn-bennaeth Stuart Gallacher, fu farw y penwythnos hwn.