Stoke 2-1 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Colli oedd hanes Abertawe yn Stadiwm Britannia yn yr Uwchgynghrair bnawn Sul.
Wedi iddyn nhw bwyso gydol yr hanner gyntaf, fe sgoriodd Wilfried Bony o'r smotyn wedi i Ryan Shawcross ei faglu yn y cwrt cosbi.
Cic o'r smotyn oedd gôl nesa'r gêm, hefyd - Charlie Adam yn ei gwneud hi'n gyfartal wedi i'r dyfarnwr gosbi Angel Rangel am ffowlio Victor Moses.
Yna, daeth Jonathan Walters oddi ar y fainc, a phenio croesiad Oussama Assaidi i gefn y rhwyd.
Wedi'r gêm, mae Abertawe'n syrthio i'r wythfed safle yn yr Uwchgynghrair.