Damwain: Gyrrwr mewn cyflwr difrifol
- Published
image copyrightAlan Bowring
Mae gyrrwr mewn cyflwr difrifol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar ym Mhowys.
Derbyniodd y gyrrwr anafiadau difrifol yn y gwrthdrawiad ar yr A40 ger Stad Ddiwydiannol Elvicta, Crughywel ar ddydd Sul, 19 Hydref am 16:15.
Roedd car Renault Clio glas y dyn 22 oed mewn gwrthdrawiad gyda char Mercedes arian, a chafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Nevill Hall, Y Fenni.
Cludwyd y ddynes oedd yn gyrru'r Mercedes i'r un ysbyty, ond ni chredir bod ei hanafiadau yn ddigon difrifol i fygwth ei bywyd.
Dylai unrhyw un gydag unrhyw wybodaeth alw Heddlu Dyfed-Powys ar 101.