Cwmni Prudential i fuddsoddi £100 miliwn yn Lagŵn Abertawe
- Cyhoeddwyd

Bydd cwmni gwasanaethau ariannol yn buddsoddi hyd at £100 miliwn yn y cynllun i adeiladu lagŵn fydd yn cynhyrchu ynni gan ddefnyddio'r llanw ym Mae Abertawe.
Bydd cwmni'r Prudential ymysg y prif fuddsoddwyr yn y cynllun gwerth £850 miliwn i ddefnyddio ynni'r llanw, gan ddarparu ynni ar gyfer hyd at 120,000 o dai am 120 o flynyddoedd.
Ar hyn o bryd mae'r cynllun 240 megawat yn cael ei archwilio gan yr Arolygiaeth Gynllunio.
Dywedodd y Prudential y byddai'n dod yn "fuddsoddwr sylfaenol" yn y prosiect.
1,850 o swyddi
Byddai'r 'wâl fôr' chwe milltir o hyd, yn cael ei hadeiladu rhwng y dociau a champws newydd Prifysgol Abertawe ar Ffordd Fabian.
Byddai'n cymryd dwy flynedd i'w hadeiladu gan greu 1,850 o swyddi adeiladu.
Mae disgwyl i'r gwaith gychwyn y flwyddyn nesaf os yw'r prosiect yn cael ei gymeradwyo, a byddai ynni ar gael ar gyfer y Grid Cenedlaethol o 2018 ymlaen.
Gall rhan o fuddsoddiad y Prudential fod ar gael erbyn y flwyddyn nesaf.
8% o drydan y DU
Gallai'r lagŵn yn Abertawe fod y cyntaf mewn cyfres o chwech, gyda'r pump arall gryn dipyn yn fwy, gan gynnwys un ger Bae Colwyn ac un arall ym Môr Hafren.
Byddai'r rhwydwaith yn gallu creu hyd at 30 terawat awr o bŵer y flwyddyn, sydd gyfwerth â 8% o'r trydan sy'n cael ei ddefnyddio yn y DU.
Dywedodd Tidjane Thiam, prif weithredwr grŵp y Prudential: "Mae'r Prudential wedi ymroi i fuddsoddi mewn prosiectau isadeiledd fydd yn elwa'r economi genedlaethol.
"Rydym ni hefyd yn falch o chwarae rhan yn natblygiad y dechnoleg ynni adnewyddadwy hon fydd ymysg y mwyaf blaengar yn y byd."
Dywedodd prif weithredwr Tidal Lagoon Power Ltd, Mark Shorrock: "Mae sicrhau cefnogaeth cwmni buddsoddi sy'n adnabyddus ar draws y byd yn gam pwysig arall ar gyfer prosiect Bae Abertawe ac yn cadarnhau ein gweledigaeth ar gyfer cyflwyno ynni sy'n cael ei gynhyrchu gan y llanw i'r dewisiadau ynni carbon isel sydd ar gael yn y DU."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2014
- Cyhoeddwyd7 Mai 2014
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2013