Dynes wedi gwrthod bwyta er mwyn marw

Jean Davies Image copyright Bronwen Davies
Image caption Gwrthododd Jean Davies fwyta am bump wythnos gan achosi ei marwolaeth oherwydd nad oedd hi'n gallu dod a'i bywyd i ben yn gyfreithlon.

Mae ymgyrchydd dros yr hawl i farw wedi gwrthod bwyta am bum wythnos gan achosi ei marwolaeth oherwydd nad oedd hi'n gallu dod a'i bywyd i ben yn gyfreithlon.

Nid oedd Jean Davies, 86 oed, yn dioddef o afiechyd marwol, ond dywedodd bod ei bywyd bellach yn "anioddefol", ac roedd hi eisiau marw yn ei chartref ei hun.

Dywedodd ei merch Bronwen, nyrs yng Nghaerdydd, bod marwolaeth ei mam wedi dod yn dilyn blwyddyn o iechyd cynyddol wael.

Bu farw Mrs Davies ar 1 Hydref.

'Gallu i wneud penderfyniad'

Roedd Jean Davies wedi trafod marw drwy wrthod bwyta gyda'i theulu yn y blynyddoedd cyn ei marwolaeth.

Cyn ei marwolaeth, roedd y Sunday Times wedi cyfweld Mrs Davies ynglŷn â'i phenderfyniad i ddod a'i bywyd i ben.

Roedd Mrs Davies wedi gweld ffrind iddi'n ceisio lladd ei hun drwy ddefnyddio meddyginiaeth, gan fethu, ac nid oedd hi eisiau gofyn i unrhyw un arall roi cymorth iddi farw oherwydd y byddai hynny'n anghyfreithlon dan gyfreithiau'r DU.

Roedd hi'n dioddef o gyfnodau o fod yn anymwybodol ac yn poeni am farw yn dilyn un o'r cyfnodau hynny, gyda'i theulu'n gorfod darganfod ei chorff yn y tŷ neu yn yr ardd.

Dywedodd Bronwen Davies bod gan ei mam nifer o gyflyrau cronig a bod ei iechyd wedi dirywio'n sylweddol.

Roedd Mrs Davies hefyd wedi dioddef nifer o strociau bychain.

Dywedodd Ms Davies wrth y BBC: "Roedd hi'n ymwybodol ei fod yn un peth all arwain at ddementia.

"Aeth i weld seiciatrydd wedi iddi benderfynu dod a'i bywyd i ben a chafodd farciau llawn yn y prawf iechyd meddwl ac roedd ganddi'r gallu i wneud penderfyniadau am ddod a'i bywyd i ben."

Image copyright Jonathan Gurr/Wales News Service
Image caption Dywedodd Bronwen Davies bod ei mam wedi bod yn "gwbl annibynnol" ac wedi mwynhau bywyd.

'Cwbl annibynnol'

Dywedodd Ms Davies bod ei mam wedi penderfynu peidio ag ail-gychwyn bwyta wedi iddi ddioddef o salwch oedd wedi golygu nad oedd ganddi awydd bwyd.

Yn ôl Bronwen Davies roedd ei mam wedi bod yn "gwbl annibynnol" gan fwynhau bywyd.

"Yn dilyn y cyfnod o salwch, roedd pum wythnos pan wnaeth hi ddim bwyta. Roedd hi'n credu, a hynny drwy gamgymeriad, y byddai'n digwydd yn gynt wedi iddi roi'r gorau i yfed dŵr (ar ôl ychydig o wythnosau).

"Roedd hi'n teimlo'n rhwystredig iawn am ba mor hir roedd hi'n cymryd iddi farw wedi iddi roi'r gorau i yfed."

Dywedodd Ms Davies bod ei mam wedi bod yn berson gweithgar iawn. Roedd hi'n gyn-athrawes Mathemateg, a threuliodd gyfnod yn gweithio yn Ysgol Howardian, Caerdydd pan roedd ei gŵr yn gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Daeth yn rhan o'r ymgyrch 'hawl i farw' mor bell yn ôl a'r 1970au ac roedd hi'n llywydd ar y Ffederasiwn Y Byd Cymdeithasau Hawl i Farw o 1990 i 1992 ac yn gadeirydd Voluntary Euthanasia Society UK (sydd erbyn hyn yn cael ei adnabod fel Dignity in Dying).

'Mwynhau bywyd'

"Roedd yn anodd iawn iddi dderbyn bod ei bywyd, yn ara' deg, yn dod yn llai boddhaol. Nid oedd hi bellach yn gallu symud."

"Roedd hi'n ddynes gwbl annibynnol. Roedd hi'n mwynhau pobl, cerddoriaeth, celf. Roedd hi'n mwynhau bywyd.

"Rydw i'n meddwl y byddai wedi bod yn haws iddi dderbyn y mater pe bai ganddi afiechyd marwol a phe bai wedi bod yn waelach."

Wrth ateb cwestiwn ynglŷn â pham nad oedd ei mam wedi dewis dull cyflymach o farw, dywedodd Ms Davies ei bod hi wedi sôn am y posibilrwydd o farw drwy wrthod bwyta yn y gorffennol.

Yn ogystal roedd hi wedi sylweddoli y gallai ei gweithredoedd godi ymwybyddiaeth o achos roedd hi wedi'i gefnogi am nifer o flynyddoedd, a phenderfynodd gysylltu â Dignity in Dying.

"Rydw i'n meddwl ei bod hi wedi sylweddoli ar ôl iddi gychwyn, y byddai hyn yn denu sylw", medd Ms Davies.

"Penderfynodd chwilio am gyhoeddusrwydd yn dilyn ei phenderfyniad."

'Balch'

Yn ystod wythnosau cyntaf ei hympryd roedd teulu a ffrindiau yn ymweld â Mrs Davies.

Dywedodd ei merch: "Roedd hi'n cael amser cymdeithasol iawn yn ystod y ddwy wythnos gyntaf. Roedd gen i lawer o amser i ddweud wrth mam beth roedd hi'n olygu i mi.

"Roeddwn i'n Rhydychen am y pedair wythnos olaf er mwyn gallu bod yn agos ati."

Dywedodd Ms Davies, sydd efo un chwaer a dau o frodyr, nad oedd gwylio ei mam yn marw yn hawdd, ond ychwanegodd: "Rydw i'n falch ohoni. Mae'r holl deulu'n falch ohoni a beth y gwnaeth hi."