Apêl y pabi yn anelu at £40 miliwn

Poppy
Image caption Nod yr ymgyrch yw codi £40 miliwn ar gyfer gwaith elusen

Bydd yr Apêl Babi flynyddol yn cael ei lansio ddydd Gwener mewn trefi a phentrefi ledled Cymru gan helpu'r Lleng Brydeinig gyrraedd eu nod o godi £40 miliwn er mwyn helpu cyn aelodau'r lluoedd arfog a'u teuluoedd.

Mae apêl y pabi yn dyddio nol i 1921, a hynny wrth i filoedd o filwyr ddychwelyd o'r Rhyfel Mawr wedi eu hanafu neu heb waith ar eu cyfer.

Ond yn ôl Kevin Forbes, trefnydd rhanbarth Gogledd Cymru y Lleng Brydeinig, mae'r apêl yn un gyfoes ac nid yn un hanesyddol yn unig.

"Mae rhanbarth Gogledd Cymru eisoes wedi casglu £466,000 a dwi o hyd yn awyddus i ddweud fod 10% o'n harian ni yn cael ei godi gan bobl ifanc, bod yn wirfoddolwyr, yn fyfyrwyr neu'n gadetiaid."

"Dwi'n meddwl mai y tu allan i'r wladwriaeth les y ni yw'r darparwr mwyaf o ran rhoi cefnogaeth i unigolion. "

Barddoniaeth

"Drwy'r DU mae'r Lleng yn gwario £1.6 miliwr yn wythnos ar les."

"Mae gan unrhyw gyn aelod o'r lluoedd arfog neu eu teuluoedd yr hawl i wneud cais am gymorth oddi wrth y Lleng Brydeinig. Mae swyddog lles yn asesu'r agen ac yn dod i benderfyniad, ac fe allai'r gefnogaeth sy'n cael ei gynnig bara am oes."

Y pabi yw'r symbol mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei uniaethu gydag apêl codi arian y Lleng Brydeinig.

Yn ôl yr hanesydd Syr Deian Hopkins, cafodd y syniad o'r Pabi ei symbylu'n rhannol gan farddoniaeth John McCrae ym Mai 1915

In Flanders fields the poppies blow

Between the crosses, row on row,

"Roedd y bobl eisiau symbol. Rhaid i chi gofio fod yna symbol gweledol i'r meirw mewn cofebion ledled Cymru , ond wrth gwrs doedd na ddim i gofio'r rhai wnaeth ddychwelyd, rhai gydag anafiadau difrifol," meddai Syr Deian.

Image caption Mae'r gromlech ger maes y gad Passchendaele yn gofeb barhaol i'r tua 40,000 o Gymry a fu farw yn y Rhyfel Mawr.

"Mae yna sawl rheswm pam fod yr apêl wedi cydio. Roedd y gwleidyddion fel David Lloyd George wedi addo 'cartrefi yn addas i arwyr' - ond ddigwyddodd hynny ddim wrth i'r milwyr ddychwelyd adref.

"Roedd y bobl felly yn awyddus i ddangos eu gwerthfawrogiad."

Yn ôl Syr Deian mae'n bwysig cofio nad oedd yna wladwriaeth les fel sydd ar gael heddiw.

Trefnydd hynaf

"Roedd pobl yn dychwelyd o'r rhyfel ac roedd angen cartrefi, cymorth ac ail hyfforddi ar gyfer swyddi"

Cafodd y Lleng Brydeinig ei ffurfio yn 1921 ac yn y flwyddyn honno cafodd 9 miliwn o babi eu harchebu a'u gwerthu.

Eleni fel pob blwyddyn bydd y pabi sy'n cael ei gwisgo ar ddillad yn cael ei gwerthu o'r wythnos olaf ym mis Hydref tan Ddydd y Cofio ar 11 Tachwedd neu Sul y Cofio.

Mae yna 350,000 o staff a gwirfoddolwyr yn trefnu'r apêl bob blwyddyn.

Y trefnydd hynaf yng Nghymru yw Richard Carter sy'n yn 100 oed dydd Llun.

Roedd Mr Carter sy'n byw yn Llanfairpwll Sir Fôn yn filwr yn ysod yr Ail Ryfel Byd, ac ef sy'n gyfrifol am drefnu Apêl y Pabi yn ardal Dwyran.

Image copyright other
Image caption Bydd Richard Carter, trefnydd hynaf Cymru, yn dathlu ei benblwydd yn 100 dydd Llun

Yn ôl Kevin Forbes mae llwyddiant yr apêl yn llwyr ddibynnol ar bobl fel Mr Carter.

"Ei ferch dwi'n credu sy'n gwneud y gwaith casglu erbyn yn, ond Richard sy'n parhau i wneud y gwaith trefnu.

"Hyd at ddwy flynedd yn ôl roedd Richard yn dal i fynd ar ei feic yn mynd a'r pabi o le i le."

Dau aelod arall o'r Lleng ac o'r un pentref sydd wrthi bob blwyddyn yn codi arian yw Ifor ac Edwina Evans.

Y nhw sy'n gyfrifol am ardal yn ymestyn o Lanfairpwll a Phorth Aethwy i'r Felinheli.

Casglu arian

Eleni mae'r ardal wedi llwyddo i godi £50,000, ond mae'r cwpl hefyd wedi llwyddo i godi £3,000 eu hunain.

"Bob blwyddyn rydym yn mynd o amgylch y sioeau, fel Sioe Môn, gyda'n carafán ac yn codi arian drwy dombola a gwerthu pethau fel bathodynnau.

Roedd ei gŵr, sy bellach yn 83, yn aelod o'r Llu Awyr yn y cyfnod wedi'r Ail Ryfel Byd.

"Dim ond am y rhai wnaeth yr aberth mwyaf byddwn i ddim yma heddiw," meddai Edwina sy'n 78.

"Yn ferch fach cefais fy magu yn Wallasey, a dwi'n cofio'r bomiau yn disgyn ar Lerpwl. Roedd y lle yn olau ac weithiau byddai'r bomiau yn cael eu chwythu tuag ag Penbedw, ro ni wedi dychryn yn llwyr."

Ffarmwr ydi Eurwyn Roberts a does ganddo ddim cysylltiadau uniongyrchol a'r lluoedd arfog.

"Mae gennyf ddiddordeb mawr yn yr Ail Ryfel Byd a dyna yn fwy na dim wnaeth fy mherswadio i ddechrau casglu dros y cyn filwyr," meddai Mr Roberts sy'n ffermio yn ardal Cilcain, Sir Fflint.

"Mae yna garafanau ar y tir a dwi'n mynd o amgylch y rhain yn hel, a dwi'n casglu drwy'r flwyddyn, mae'n bwysig ein bod ni'n cofio faint mae'r bobl yma wedi ei wneud dros bawb."

Image caption Bedd milwr anhysbys o Gymru yng Ngwlad Belg

Straeon perthnasol