Gareth Bale allan o gêm Lerpwl
- Cyhoeddwyd

Mae'n edrych yn debyg y bydd Real Madrid yn gwynebu Lerpwl heb Gareth Bale yng Nghyngrair y Pencampwyr ddydd Mercher.
Dywedodd Real Madrid mewn datganiad: "Mae profion ar Gareth Bale gan dîm meddygol Real Madrid wedi datgelu anaf i'r cyhyr pyramidalis dde. Byddwn yn cadw golwg ar ei ddatblygiad."
Mae'r cyhyr pyramidalis i'w ganfod ar flaen wal yr abdomen.
Roedd Bale yn eilio yng ngêm Madrid yn erbyn Levante ddydd Sadwrn.
Dywedodd rheolwr Real Madrid, Carlo Ancelotti wedi'r gem na fyddai'n cymryd unrhyw risg i ffitrwydd Bale o ystyried bod y tîm yn gwynebu Barcelona yn Santiago Bernabeu ddydd Sadwrn.
Mae'n bur debyg bydd y chwaraewr yn colli gêm El Classico ddydd Sadwrn hefyd.
Mae'r pencampwyr Ewropeaidd ar frig grŵp B, tri phwynt ar y blaen o Lerpwl a Basel yn dilyn dwy gem.