Rhybudd o wyntoedd cryfion

  • Cyhoeddwyd
Storm ym MhorthcawlFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,
Dywed y Swyddfa Dywydd y gallai'r gwyntoedd gyrraedd cyflymdra o hyd at 70 mya mewn rhai mannau

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi newid eu rhybudd melyn am wyntoedd cryfion, er mwyn cynnwys Cymru gyfan.

Yn wreiddiol roedd y rhybudd ar gyfer y gogledd yn unig.

Mae'r rhybudd ar gyfer nos Lun a dydd Mawrth.

Daw'r gwyntoedd o'r hyn sy'n weddill o gorwynt Gonzalo.

Fe fydd gwyntoedd cryfion yn effeithio ar y rhan fwya' o'r wlad fore dydd Mawrth.

Trefniadau teithio

Mae disgwyl i nos Lun fod yn wlyb ac yn wyntog, gyda'r gwyntoedd yn symud i'r dwyrain.

Bydd y gwyntoedd ar eu cryfaf wrth i bobl baratoi i fynd i'w gwaith ddydd Mawrth ar ôl i'r glaw glirio.

Yn ôl arbenigwyr y Swyddfa Dywydd, bydd gwyntoedd yn cyrraedd cyflymder o hyd at 70 milltir yr awr ar rannau o'r arfordir, a 55 mya mewn rhannau eraill.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd y dylai'r cyhoedd fod yn ymwybodol y gallai'r tywydd effeithio ar eu trefniadau teithio, ac y bydd dŵr ar wyneb priffyrdd yn gallu achosi problemau.