Undeb Unsain: Gweithwyr iechyd o blaid streicio
- Published
Mae miloedd o weithwyr y gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi pleidleisio i streicio dros anghydfod ynglŷn â thâl.
Yn ôl undeb Unsain, dyw cynnig Llywodraeth Cymru o godiad cyflog o £160 i bob aelod o staff ddim yn ddigon.
Dywed y llywodraeth eu bod yn siomedig gyda chanlyniad y bleidlais, gan fod trafodaethau yn dal i gael eu cynnal.
Mae Unsain yn dweud bod eu haelodau yng Nghymru wedi cefnogi streic o 4-1, a mathau eraill o weithredu diwydiannol o 9-1.
Roedd dros 5,700 o aelodau wedi bwrw eu pleidlais.
Yr wythnos ddiwetha', roedd miloedd o weithwyr iechyd - gan gynnwys nyrsys, bydwragedd a staff ambiwlans - wedi cynnal streiciau ar draws Lloegr a Gogledd Iwerddon mewn anghydfod dros dâl.
'Neges glir'
Meddai ysgrifenydd rhanbarthol yr undeb yng Nghymru, Margaret Thomas: "Mae ein haelodau sy'n gweithio o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi anfon neges glir eu bod yn werth mwy na £160 pitw.
"Mae'n amser i Lywodraeth Cymru ddod at y bwrdd a thrafod cytundeb cyflog sy'n deg i'n haelodau."
Ychwanegodd y bydd pwyllgor iechyd yr undeb nawr yn ystyried eu hymateb i'r bleidlais a "sut allai unrhyw weithredu posib yng Nghymru gael ei gydlynu gydag unhryw weithredu yn Lloegr yn y dyfodol."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Y realiti yw, erbyn 2015-16 bydd cyllideb y llywodraeth 10% yn is mewn termau real nag yr oedd yn 2010-11, sy'n cyfateb i £1.5 biliwn yn llai.
"Gyda thâl yn cyfri am dros 60% o gyllideb y GIG, does dim dewis gennym ond ystyried rhywfaint o gyfyngiad tâl er mwyn cynnal swyddi a gwasanaethau rheng flaen."
Straeon perthnasol
- Published
- 9 Gorffennaf 2014