Un enw newydd yng ngharfan Cymru

Nick Smith Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Nick Smith o'r Gweilch yw'r unig enw newydd i'r garfan

Mae hyfforddwr rygbi Cymru Warren Gatland wedi cyhoeddi carfan brofiadol ar gyfer gemau'r hydref, gyda dim ond un aelod o'r garfan sydd heb ennill cap llawn.

Prop y Gweilch Nick Smith yw'r chwaraewr yna, a bydd yn ymuno gyda 12 chwaraewr sy'n dychwelyd i'r garfan ryngwladol ar ôl methu'r daith i Dde Affrica dros yr haf.

Awstralia fydd yr her gyntaf i Gymru ar 8 Tachwedd gyda Fiji, Seland Newydd a De Affrica i ddilyn dros bedwar penwythnos.

Bydd Smith yn y rheng flaen ar ôl dechrau bob un o gemau'r Gweilch y tymor hwn, ond does dim lle yn y garfan i'r prop adawodd y Gweilch am y Gleision dros yr haf, Adam Jones.

Yn dychwelyd o anafiadau ymysg y blaenwyr mae Richard Hibbard, Emyr Phillips, Bradley Davies, Justin Tipuric, James King a'r capten Sam Warburton.

Yn dilyn anaf mewnwr y Scarlets Gareth Davies, Mike Phillips, Rhys Webb a Rhodri Williams fydd yn ceisio gwisgo'r rhif 9 gyda dan Biggar a Rhys Priestland yn debyg o gystadlu i fod yn faswr, ac mae pump o Lewod eraill ymysg yr olwyr.

Dau enw sy'n dychwelyd i'r garfan ryngwladol ar ôl bwlch yw asgellwyr y Dreigiau Hallam Amos a Tom Prydie, ond does dim lle i James Hook.

'Y drws ddim ar gau'

Wrth gyhoeddi'r garfan dywedodd Warren Gatland: "Rydym yn fodlon iawn gyda'r garfan ac mae lot o brofiad wedi dychwelyd ac un neu ddau o chwaraewyr ifanc cyffrous hefyd.

"Mae Nicky Smith wedi chwarae'n arbennig o dda i'r Gweilch ac mae hwn yn gyfle gwych iddo wneud ei farc.

"Roedd gennym ambell benderfyniad anodd i wneud ac roedd rhaid ystyried faint o'r garfan sy'n chwarae y tu allan i Gymru gan feddwl pa mor aml y byddan nhw'n medru ymarfer gyda ni.

"Rydym yn edrych ymlaen i'r 12 mis nesa gyda'r garfan yma, ond nid yw'n cau'r drws ar y rhai sydd heb gael eu dewis."

Carfan Cymru ar gyfer Cyfres yr Hydref 2014:

Blaenwyr: Gethin Jenkins (Gleision), Paul James (Caerfaddon), Nicky Smith (Gweilch), Richard Hibbard (Caerloyw), Emyr Phillips (Scarlets), Scott Baldwin (Gweilch), Aaron Jarvis (Gweilch), Samson Lee (Scarlets), Rhodri Jones (Scarlets), Alun Wyn Jones (Gweilch), Jake Ball (Scarlets), Bradley Davies (Wasps), Luke Charteris (Racing Metro), Dan Lydiate (Racing Metro), James King (Gweilch), Sam Warburton (Gleision, CAPT), Justin Tipuric (Gweilch), Dan Baker (Gweilch), Taulupe Faletau (Dreigiau).

Olwyr: Mike Phillips (Racing Metro), Rhys Webb (Gweilch), Rhodri Williams (Scarlets), Dan Biggar (Gweilch), Rhys Priestland (Scarlets), Cory Allen (Gleision), James Roberts (Racing Metro), Jonathan Davies (ASM Clermont Auvergne), Scott Williams (Scarlets), Hallam Amos (Dreigiau) Alex Cuthbert (Gleision), George North (Northampton Saints), Tom Prydie (Dreigiau), Leigh Halfpenny (Toulon), Liam Williams (Scarlets).