Y Gymraeg a'r gyfraith: Siarad Cymraeg yn y llysoedd

Draig goch
Image caption Cyflwynwyd yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y llysoedd yn Neddf Llysoedd 1942, ond sut mae hawliau siaradwyr Cymraeg wedi datblygu ers hynny?

Yn dilyn y stori fis diwethaf am sylwadau sarhaus am y Gymraeg ar wefan y Law Society Gazette, mae Cymru Fyw wedi gofyn i Dr Catrin Fflur Huws o Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig, Prifysgol Aberystwyth, i egluro'r hawliau sydd gan siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r iaith yn y llysoedd:

Cefndir Cyfreithiol

Mae 72 o flynyddoedd wedi pasio ers i berson gael yr hawl i siarad Cymraeg mewn achos llys. Nid oedd yr hawl dan Ddeddf Llysoedd Cymru 1942 yn eang, oherwydd ei bod hi ddim ond yn rhoi'r hawl i berson siarad Cymraeg pe baen nhw dan anfantais drwy siarad Saesneg.

Chwarter canrif yn ddiweddarach, yn sgil Deddf Iaith 1967, rhoddwyd yr hawl i unrhyw berson siarad Cymraeg mewn achos llys ac ail-adroddwyd yr hawl yn Neddf Iaith 1993.

Er bod y ddeddf hon bellach yn 21 mlwydd oed, mae'n parhau i ganiatáu i "barti, dyst neu berson arall" siarad Cymraeg mewn achos llys.

Cefnogwyd yr hawl hwn gan y cynlluniau iaith, a bydd y gefnogaeth hon yn parhau pan ddaw'r safonau iaith ym Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011, i rym.

Ceir cefnogaeth hefyd yn y Gorchmynion Ymarfer ar Wrandawiadau Cymraeg, lle pwysleisir y dylai achos cael ei glywed gerbron barnwr sy'n deall Cymraeg lle bo hynny yn bosib.

Defnydd cyfredol

Ers pasio'r Ddeddf Iaith, defnyddir y Gymraeg mewn ystod eang o achosion.

Mewn achosion sifil a thribiwnlysoedd ceir y defnydd helaethaf, oherwydd bod achosion teulu, er enghraifft, yn cynnwys partïon sydd â pherthynas neu gyswllt personol (er enghraifft gŵr a gwraig) sy'n dyddio ers cyn yr achos llys dan sylw - bydd y partïon felly yn gwybod bod y person arall yn siarad Cymraeg - a gall yr achos ddigwydd yn Gymraeg yn rhwydd.

Ceir hefyd defnydd aml mewn achosion troseddol, yn enwedig achosion gerbron ynadon, ond hefyd mewn sawl achos yn Llys y Goron.

Yn ddiweddar clywyd yr achos cyntaf drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr Uchel Lys mewn achos o adolygiad barnwrol, lle'r oedd Comisiynydd y Gymraeg wedi penderfynu cymryd camau cyfreithiol oherwydd bod y cwmni Cynilon a Buddsoddiadau Cenedlaethol wedi diddymu ei gynllun iaith.

Image caption Efallai bod symbol traddodiadol cyfiawnder yn ddall, ond ydi hi hefyd yn fyddar pan ddaw i'r hawl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y llysoedd?

Cyfleoedd newydd

Wrth gwrs, mae tirlun cyfreithiol Cymru wedi newid yn sylweddol ers 1993.

Datganoli sydd wedi sbarduno hyn, ac ers i Gynulliad Cenedlaethol Cymru dderbyn pwerau deddfu ar ôl refferendwm 2011, mae mwy o ddeunyddiau cyfreithiol dwyieithog ar gael, sy'n golygu bod y sgôp i gynnal achosion yn Gymraeg hefyd wedi datblygu.

Mae ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i hybu addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg drwy weithgarwch y Prifysgolion a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi golygu twf yn narpariaeth yr addysg a hyfforddiant a gynigir i ddarpar gyfreithwyr, ac felly mae mwy o gyfreithwyr sy'n fodlon cynnal achosion drwy'r Gymraeg.

Mae camau pellach ar droed i gynyddu'r sgôp ar gyfer defnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destun cyfreithiol. Bydd Tribiwnlys y Gymraeg ar waith o fewn y flwyddyn lle gall unigolyn ddod ag achos i gwyno am fethiant cwmni neu gorff i gyrraedd y safonau priodol.

Heriau

Serch hynny mae 'na heriau i'w hwynebu.

Ers 1993, mae nifer o lysoedd wedi cau, a gall hyn effeithio yn sylweddol ar ddewisiadau ieithyddol, wrth i achosion gael eu clywed mewn ardaloedd a welir fel ardaloedd mwy Seisnig - Caergybi o'i gymharu â Llangefni, er enghraifft.

Yn ogystal mewn cyfnod o arbedion, ceir tueddiad i ganoli gwasanaethau mewn dinasoedd - ac yn aml dinasoedd yn Lloegr - mewn modd sy'n golygu bod swyddfeydd a gwasanaethau yn llai tebygol o gynnwys staff sy'n siaradwyr Cymraeg, oherwydd nad yw'r swyddfa wedi ei lleoli mewn ardal lle ceir trwch o siaradwyr Cymraeg.

Mae rhwystrau'n parhau wrth glywed achosion o flaen rheithgor oherwydd bod Deddf Rheithgorau 1974 yn mynnu nad yw'n bosib penodi rheithgor ar sail gallu'r aelodau i ddeall Cymraeg - gellid ond eithrio aelod o reithgor ar sail methiant i ddeall Saesneg

Er gwaethaf ymholiad yn 2006 i mewn i ganiatáu rheithgorau a oedd yn deall Cymraeg, gwrthodwyd hyn oherwydd pryderon y byddai yn tanseilio'r syniad o ddewis rheithgor ar hap ac na fyddai pwll digon mawr o reithwyr i sicrhau bod yr aelodau yn ddi-duedd.

Felly, bydd y blynyddoedd sydd i ddod yn gyfnod hynod ddiddorol o ran defnydd y Gymraeg yn y llysoedd.

Ai cynyddu neu edwino bydd yr iaith Gymraeg mewn cyd-destun cyfreithiol?

Straeon perthnasol