Chwythu Dros Gymru!
- Cyhoeddwyd

Mae'r trwmpedwr a'r sacsoffonydd Gavin Fitzjohn o Gaerdydd yn ddyn prysur. Dros y misoedd diwethaf mae o wedi bod yn teithio'r byd gyda Paolo Nutini ac mae o'n perfformio hefyd gyda'r Barry Horns, y band pres sy'n perfformio'n rheolaidd yn ystod gemau pêl-droed Cymru.
Mi gafodd Gavin 'chydig o funudau i gael ei wynt ato a chael sgwrs efo BBC Cymru Fyw:
Pryd ddechreuais di ymddiddori mewn cerddoriaeth?
"Rydw i yn cofio, yn ifanc iawn, eistedd yn y stafell ffrynt efo mam yn gwrando ar recordiau o'i chasgliad feinyl. Roedd 'na lot o stwff roc - Rolling Stones, The Beatles, Black Sabbath. Roedd albwm gynta Black Sabbath yn fy nychryn i! Roedd y llun ar y clawr yn gyrru ias i lawr fy nghefn, heb anghofio'r holl synau glaw, clychau eglwys a'r riffs trwm 'na! Roedd fy chwaer yn canu ac yn chwarae gitâr fach ac roedd fy mrawd yn hoff iawn o'r sîn ddawns ar ddechrau'r 90au, felly roedd 'na wastad gerddoriaeth i'w chlywed yn y tŷ."
Rwyt ti'n adnabyddus fel sacsoffonydd a thrwmpedwr, ond rwyt ti hefyd yn chwarae offerynnau eraill. P'run yw dy ffefryn?
"Mae'r rhan fwyaf o fy ngwaith fel cerddor unai ar y sacsoffon neu ar y trwmped. Rydw i wedi bod yn chwarae'r ddau offeryn ers dros 20 mlynedd erbyn hyn. Rydw i wedi chwarae mewn bandiau ers pan o'n ni yn 12 oed, felly rydw i wedi chwarae lot ar y piano a'r gitâr hefyd.
"Mae'n llawer haws i gyfansoddi a threfnu cerddoriaeth ar y gitâr a'r piano felly rydw i yn eu defnyddio yn rheolaidd yn fy stiwdio. Rwy'n barod i drio unrhywbeth. Fel dywedodd John Lennon "...if you give me a tuba, I'll get you something out of it"!
Rwyt ti wedi perfformio efo artistaid mor amrywiol â Jools Holland, Gruff Rhys, Chris de Burgh a'r Manic Street Preachers - sut brofiad ydi gweithio efo enwau sydd mor gyfarwydd i bawb?
"Dwi ddim wedi bod yn star struck ond roedd o'n dipyn o brofiad cyfarfod Tom Jones! Rydw i'n meddwl bod artistiad rydw i wedi tyfu i fyny yn gwrando ar eu cerddoriaeth yn creu mwy o argraff arna' i nac unrhyw 'enw mawr' rydw i'n digwydd dod ar eu traws. Rydw i wedi gwrando ar y Manic Street Preachers ers pan o'n i'n blentyn felly roedd hi'n anhygoel cael y cyfle i weithio gyda nhw."
Sut mae'r artisitiaid rwyt ti wedi perfformio gyda nhw wedi dod i wybod amdanat ti?
"Yn gyffredinol, mae cael gwaith fel cerddor yn digwydd trwy gysylltiadau ac enw da, a dyna pam ei bod hi'n gallu bod mor anodd i ddechrau gyrfa yn y diwydiant yma. Mae'n rhaid i chi greu enw i chi'ch hun a bod yn ddigon ffodus i gyfarfod y bobl iawn. Mae'n rhaid i chi weithio'n galed a pharhau i gnocio ar y drysau iawn."
Be oedd y dyrfa fwya' i ti chwarae o'i blaen? Sut deimlad oedd o?
"Roedd chwarae ar y llwyfan Pyramid yn Glastonbury gyda Paolo Nutini o flaen tua 80 mil a mwy yn wallgo! Ar ben hynny mae ganddoch chi'r holl gamerau yn bwydo'r gorsafoedd teledu i filoedd mwy o bobl.
"Mae'n gallu bod yn lot o bwysau, ond mae'n brofiad anhygoel felly dwi'n trio ngorau i ganolbwyntio a mwynhau'r awyrgylch. Rwy'n credu bod y dorf yn bwydo oddi ar y bandiau, os 'dych chi yn cael amser da yna mae'r gynulleidfa yn gallu teimlo hynny."
Oes gen ti arferion munud ola' cyn camu ar y llwyfan?
"Tua awr cyn y gig mi fydda i'n gosod fy offerynnau ac yn gwneud yn siŵr fy mod i'n barod yn gerddorol ar gyfer y perfformiad. Yna bydda i'n newid ac yn treulio 20 munud yn gwneud yn siŵr fy mod i yn y ffrâm iawn o feddwl... yn y bôn mae hynny yn golygu yfed 'chydig o gwrw!"
Ar hyn o bryd rwyt ti'n teithio efo Paolo Nutini. Rho syniad i ni o dy ddiwrnod arferol tra'n teithio.
"Yn America, roedd 'na gymaint o bellter i'w deithio rhwng canolfannau, felly yn gyffredinol roedden ni yn gadael yn eitha buan ar ôl y gig a theithio trwy'r nos er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cyrraedd y ddinas nesaf mewn pryd.
"Roedd yr amserlen yn eithaf tynn ond roedden ni'n llwyddo i ffeindio ffordd o fwynhau a chael 'chydig o hwyl.
"Erbyn hyn mae ein taith yn y DU wedi dechrau ac rydw i wirioneddol yn edrych 'mlaen. Mi fydd hi'n braf gael dod adref i Gaerdydd ar Hydref 31 pan fyddwn ni'n chwarae yn y Motorpoint Arena. Rydw i wedi gweld cymaint o fandiau yno dros y blynyddoedd, felly mi fydd o'n deimlad rhyfedd bod yno fel perfformiwr."
Rwyt ti hefyd yn chwarae gyda'r Barry Horns, band pres sydd yn chwarae yn rheolaidd yn ystod gemau pêl-droed Cymru. Ydych chi'n paratoi am daith i Ffrainc?
"Rydw i wedi bod yn rhan o'r Barry Horns ers i ni ffurfio mewn tafarn yng Nghaerdydd yn hwyr un noson yn 2011. Mae'n rhywbeth rydw i yn mwynhau bod yn rhan ohono.
"Rydw i wedi bod yn ddilynwr brwd o dîm Cymru ers blynyddoedd ac rydw i wedi bod yn mynd i'r gemau ers pan oeddwn i'n ifanc iawn - felly rydw i wedi gweld llawer o ddyddiau du! Mae 'na buzz o gwmpas y tîm cenedlaethol ar hyn o bryd a nifer yn credu y gallwn ni gyrraedd rowndiau terfynol Pencampwriaethau Ewrop.
"Rydw i wedi fy argyhoeddi gyda'r garfan sydd ganddon ni a'r teimlad sydd o fewn y grŵp y gallwn ni gyrraedd Ffrainc. Un peth sy'n sicr - mi fydd y Barry Horns yno hefyd!"