Cwmni diogelwch yn agor pencadlys newydd yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Ddydd Mercher, mae cwmni diogelwch ar y we yn agor pencadlys newydd yng Nghaerdydd, gan greu bron i 130 o swyddi.
Mae cwmni Alert Logic, sydd a'i brif bencadlys yn Houston, Texas, yn cynnig gwasanaethau diogelwch data ar y we.
Bwriad y cwmni yw ehangu i farchnadoedd Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica, a'r gobaith yw y bydd 300 o swyddi yn cael eu creu o fewn tair blynedd.
Cyhoeddodd y cwmni eu bod yn symud ym mis Ebrill, a dyma un o'r busnesau cyntaf i symud i mewn i Ardal Fenter Canol Caerdydd.
Fe gafodd y cwmni £1.15m gan Lywodraeth Cymru gan ddweud eu bod wedi dewis Caerdydd oherwydd y cysylltiadau trafnidiaeth a'r prifysgolion lleol oedd yn ymchwilio i'r maes diogelwch ar y we.
Mae'r cwmni eisoes wedi agor canolfan ddata yng Nghasnewydd, ond bydd y rhan fwyaf o staff wedi eu lleoli yng Nghaerdydd.
Dywedodd is-lywydd Alert Logic yn Ewrop, David Howorth, bod y cwmni wedi cael sawl ymholiad yn ddiweddar, ar ôl i luniau preifat nifer o sêr ffilm a cherddoriaeth gael eu rhoi ar y we.
Ychwanegodd bod angen i fusnesau fod yr un mor wyliadwrus.
"Nid yn unig y dechnoleg sy'n bwysig, mae angen i bobl - unigolion sy'n gweithio mewn cwmnïau - gael y pethau syml yn gywir.
"Mae'n bwysig sicrhau bod cyfrineiriau yn anodd i'w datrys ac nad yw pobl yn gadael eu cyfrifiaduron yn agored."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2014