Caerdydd 3 - 1 Ipswich
- Cyhoeddwyd

Mae Russell Slade wedi parhau gyda'r dechrau da i'w yrfa gyda Chaerdydd wrth i'w dîm ddod yn ôl i guro Ipswich nos Fawrth.
Daryl Murphy roddodd yr ymwelwyr ar y blaen yn Stadiwm Dinas Caerdydd, cyn i Peter Wittingham sgorio i Gaerdydd gydag ergyd i gornel uchaf y rhwyd.
Federico Macheda roddodd yr Adar Gleision ar y blaen ar ddechrau'r ail hanner.
Adam Le Fondre sgoriodd ei gôl gyntaf i Gaerdydd i sicrhau'r pwyntiau, ac ail fuddugoliaeth yn olynol i ddynion Slade.
Dim ond un newid wnaeth Slade i'w dîm yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn Nottingham Forest ddydd Sadwrn, wrth i Fabio ddechrau yn yr amddiffyn i ddechrau yn erbyn Ipswich, oedd heb golli ers mis Awst.
Er i'r ddau dîm greu cyfleoedd yn gynnar yn y gêm, Ipswich lwyddodd i fanteisio gyntaf, wrth i foli Murphy o 25 llath hedfan heibio David Marshall i rwyd Caerdydd.
Ond doedd Wittingham ddim am adael i'r ymwelwyr gael y gorau ohono, a saethodd yntau i gornel uchaf y rhwyd o du allan i'r cwrt cosbi.
Macheda roddodd y tîm cartref ar y blaen yn yr ail hanner, gan rwydo o bêl Pilkington ar draws wyneb y gôl.
Roedd hi'n ergyd i Ipswich, a doedd yr ymwelwyr methu a dod yn ôl i'r gêm.
Gydag 20 munud i fynd cafodd ergyd Adam Le Fondre ei wyro i'r rhwyd, gan roi gôl gyntaf i'r ymosodwr mewn crys Caerdydd, a sicrhau ail fuddugoliaeth yn olynol i'r Adar Gleision.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2014