Casnewydd 1 - 0 Southend United
- Published
image copyrightHuw Evans picture agency
Rhoddodd gôl Mark Byrne fuddugoliaeth i Gasnewydd yn erbyn Southend United nos Lun, ar ôl i'r ymwelwyr fethu cic o'r smotyn yn Rodney Parade.
Yn dilyn hanner cyntaf ddistaw rhwng y ddau dîm, cafodd Southend gic o'r smotyn ar ôl i'r dyfarnwr benderfynu bod Kevin Feely wedi llawio'r bel yn y cwrt.
Ond llwyddodd gôl geidwad Casnewydd, Joe Day i fynd i'r ochr gywir a chadw ergyd Myles Weston allan o'r rhwyd.
Daeth trydedd fuddugoliaeth yn olynol i Gasnewydd yn dilyn gôl Byrne, wnaeth saethu i'r rhwyd o bêl Aaron O'Connor gyda 15 munud yn weddill.