Datganoli ffioedd maes awyr: Mantais annheg?

  • Cyhoeddwyd
Teithwyr ym Maes Awyr CaerdyddFfynhonnell y llun, cardiff airport

Fe fyddai gan Faes Awyr Caerdydd "fantais sylweddol" dros gystadleuwyr petai Llywodraeth Cymru yn ennill pwerau i osod ffioedd teithwyr, yn ôl pennaeth Maes Awyr Bryste.

Fe fyddai'n golygu y gallai'r maes awyr ostwng neu gael gwared â'r ffi - a chynnig gwasanaethau rhatach o'r herwydd.

Mae'r syniad wedi ei wrthod gan Lywodraeth y DU fel rhan o'r cynlluniau presennol i ddatganoli pwerau i Fae Caerdydd.

Fodd bynnag, mae'r pedair plaid yn y Senedd wedi galw am ailedrych ar y cynllun.

'Annheg'

Yn ôl prif weithredwr Maes Awyr Bryste, Robert Sinclair, byddai unrhyw bŵer i ostwng neu ymwared â'r ffi yn annheg.

Mae'r ffi yn codi £13 ar bob teithiwr sy'n hedfan o'r DU ar hediadau byrion, ac yn codi i £97 ar gyfer teithiau hirion, gan ddyblu i deithwyr sy'n prynu tocynnau dosbarth cynta' neu ddosbarth busnes.

Doedd y cynllun i ddatganoli'r ffi ddim yn rhan o Fesur Cymru.

Ond yn Nhŷ'r Arglwyddi wythnos yn ôl, fe alwodd cadeirydd Maes Awyr Caerdydd, Yr Arglwydd Rowe-Beddoe, am newid yn y mesur.

25%

Dyw'r ddadl nad yw meysydd awyr Bryste a Chaerdydd ddim yn cystadlu â'i gilydd ddim yn dal dŵr, medd Mr Sinclair.

"Mae llai na 100 cilometr rhwng y meysydd awyr. Mae Bryste mor gyfleus â Chaerdydd i nifer o bobl sy'n byw yn ne ddwyrain Cymru, ac ar hyn o bryd, 'dy ni'n gwasanaethu 25% o farchnad teithio awyr yr holl wlad.

"Nid Lloegr yn erbyn Cymru yw hyn, ond mater o'r farchnad yn penderfynu pa gwmnïau sy'n dewis hedfan o le, a theithwyr yn pleidleisio gyda'u traed."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol