Ymgyrch y Cynulliad i daclo 'diffyg democrataidd Cymru'
- Cyhoeddwyd
Mae Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhuddo rhannau o'r cyfryngau torfol o wneud y gwaith o gyfathrebu am waith y Cynulliad yn "anoddach".
Fe ddaw sylwadau'r Fonesig Rosemary Butler wrth i'r Cynulliad gynnal diwrnod o weithgareddau yn y Senedd yng Nghaerdydd ddydd Iau, ar gyfer newyddiadurwyr "hyperleol".
Yn ôl y Llywydd, nod y digwyddiad yw "cau'r bwlch a grëwyd gan agwedd sefydliadau'r cyfryngau yn y DU, a rhan sylweddol o gyfryngau prif ffrwd Cymru, nad ydyn nhw'n rhoi gwybod i'w cynulleidfaoedd yng Nghymru am waith y Cynulliad Cenedlaethol."
Hawliodd Ms Butler eu bod "wedi siarad â nifer o newyddiadurwyr hyperleol a chymunedol ledled Cymru sy'n awyddus i roi sylw i'n gwaith."
"Bydd y Diwrnod Newyddion Hyperleol yn gyfle i'r newyddiaduron cymunedol hynny ddod i'r Senedd i weld sut rydym yn gweithio, ac i weld sut y gallant ddefnyddio'n cynnwys a'n llwyfannau ni i gyflwyno adroddiadau am waith y Cynulliad," ychwanegodd.
Mae'r digwyddiad wedi ei drefnu ar y cyd â Chanolfan Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd.
Dywedodd cyfarwyddwr y ganolfan, yr Athro Richard Sambrook:
"Mae'r hyn sy'n digwydd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn effeithio ar fywydau pawb sy'n byw ac yn gweithio yn y wlad hon.
"Er lles democratiaeth iach, mae'n bwysig bod pobl yn gwybod beth sy'n digwydd a'u bod yn gallu dwyn aelodau etholedig i gyfrif."
Beirniadaeth
Ond mae'r ymgyrch wedi ysgogi beirniadaeth gan arbenigwr newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Bangor.
Dywedodd y darlithydd Ifan Morgan Jones, ei fod ei fod yn bryderus ynglŷn â'r pwyslais ar ddatblygu gwasanaethau newyddion lleol yn hytrach na gwasanaethau cenedlaethol i Gymru.
Fe ddywedodd wrth Cymru Fyw bod angen "cyfryngau sydd yn uno Cymru yn hytrach na chyfryngau lleol sydd yn pwysleisio rhaniadau."
Dywedodd Mr Jones y byddai yn hoffi gweld ymgais i gryfhau gwasanaethau Saesneg cenedlaethol yng Nghymru.
"Mae'r ffrwgwd diweddar rhwng y Daily Mail a Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r gwasanaeth iechyd yn dangos bod gwir angen cryfhau'r ddarpariaeth genedlaethol yn Saesneg," meddai.
Yn ôl Mr Jones: "Mae gwasanaethau Cymraeg cenedlaethol yn eitha cryf , gan gynnwys Newyddion 9 ar S4C, Golwg 360 a BBC Cymru Fyw, ond mae prinder gwasnaethau cenedlaethol yn Saesneg , heblaw am y BBC".