Marwolaeth y nofelydd Rhiannon Davies Jones
- Cyhoeddwyd

Rhiannon Davies Jones
Bu farw'r nofelydd, ac enillydd y Fedal Ryddiaith, Rhiannon Davies Jones yn 92 oed.
Fe ddaeth Rhiannon Davies Jones i'r amlwg yn y 60au wrth iddi ennill Medal Ryddiaith 1960 am ei nofel Fy Hen Lyfr Cownt.
Yn dilyn y wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, bu'n fuddugol unwaith eto yn 1964 yn Abertawe am ei gwaith Lleian Llan-Llŷr.
Ganed Rhiannon Davies Jones yn Llanfair, Dyffryn Ardudwy, yn ferch i gyn weinidog capel Salem.
Fe'i haddysgwyd ym Mhrifysgol Bangor, a bu'n athrawes yn Ysgol Ramadeg Rhuthun cyn symud i swydd mewn coleg yng Nghaerllion.
Yn hwyrach bu'n ddarlithydd yn y Coleg Normal, Bangor.
Yn ystod ei gyrfa, fe ysgrifennodd 10 nofel, ynglŷn â chyfnodau o hanes Cymru.
Fe gyhoeddwyd ei nofel olaf, Cydio mewn Cwilsyn, yn 2002.
Ffynhonnell y llun, Wikipedia
Fe enillodd Rhiannon Davies y Fedal Ryddiaith am ei nofel Lleian Llan-LLŷr