Arestio tri mewn ymchwiliad i ysgol arbennig ym Mhowys
- Cyhoeddwyd
Fe gaeodd Ysgol a Chartref Womaston ym mis Awst
Mae tri o bobl wedi cael eu harestio fel rhan o ymchwiliad i honiadau o gam-drin corfforol gan staff mewn ysgol i blant ag anableddau dysgu ym Mhowys.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi arestio dyn 62 oed a dwy ddynes, 49 a 60 oed, ar amheuaeth o esgeuluso plant.
Daw'r arestiadau fel rhan o'r ymchwiliad i Gartref ac Ysgol Womaston yn Walton, ger Llanandras.
Cafodd y tri eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Roedd Womaston, cartref ac ysgol i blant rhwng 11 ac 19 oed sydd ag anableddau dysgu fel awtistiaeth, yn cael ei reoli gan elusen MacIntyre. Fe gaeodd yr ysgol ar Awst 31.
Straeon perthnasol
- 16 Mai 2014