BBC Cymru Fyw

Cwis BAFTA: Tynnu'r Mwgwd

Published
image captionMae'r actor yma o Rydaman wedi chwarae rhan y digrifwr Ryan Davies ar lwyfan ac ar sgrin.
image captionAled Pugh oedd yr Actor Gorau yn 2010 am ei bortread o Ryan Davies yn 'Ryan a Ronnie'
image captionO'r Barri i Bontyberry mae'r actores hon yn gyfarwydd iawn gyda seremoniau BAFTA!
image caption'Stella' oedd yn fuddugol am y Ddrama Deledu Orau yn 2013. Mi ennillodd Ruth Jones wobr hefyd am y Sgriptio Gorau
image captionOedd y Doctor yma ar amser ar gyfer ei apwyntiad pwysig efo BAFTA Cymru yn 2007?
image captionMae 'Doctor Who 'wedi ennill 25 BAFTA Cymru i gyd, gan cynnwys gwobr yr Actor Gorau i David Tennant yn 2007
image captionWythwr o'r Wythdegau fu'n gapten ei wlad. Mae e bellach yn sylwebydd a gohebydd uchel ei barch.
image captionEddie Butler cafoodd ei goroni'n Sgriptiwr Gorau am raglen ddogfen ar y Llewod 'Lions '71' yn 2012
image captionFallai y gallai'r Ditectif Prif Arolygydd Tom Mathias eich helpu i nabod yr actores hon?
image captionCafodd Mali Harries ei henwebu ddwy waith am yr Actores Orau yn 2011, gan ennill y wobr am ei rôl yn "The Indian Doctor"
image captionBu'n achosi helynt gyda'i frawd yn Abertawe cyn mynd i Efrog Newydd i herio Spiderman
image captionRhys Ifans oedd y cyntaf i dderbyn Gwobr Siân Phillips yn 2005
image captionMerch i un o'r Brodyr Bach sydd wedi creu argraff fawr ar BAFTA!
image captionCafodd Sara Lloyd-Gregory ei choroni yr Actores Orau am ei rôl yng nghyfres ddrama 'Alys' yn 2013
image captionOes angen rhagor o waith ditectif i nabod yr actor yma?
image captionFe enillodd 'Sherlock 'y wobr am y Ddrama Deledu Orau yn 2012
image captionMi roedd hi'n perthyn i gast Torchwood a Merlin ond pwy yw'r actores o Ystradgynlais?
image captionYn 2007, fe enillodd Eve Myles y wobr am yr Actores Orau am ei phortread o Gwen Cooper yng nghyfres gyntaf Torchwood.
image captionA fydd seremoni BAFTA Cymru yn brif stori ar Newyddion 10?
image captionMae Huw Edwards wedi ennill y wobr am y Cyflwynydd Gorau chwe gwaith!
image captionRoedd yr actores yma fel y gôg pan enillodd hi wobr yr Actores Orau yn 2010
image captionMae Eiry Thomas wedi ennill gwobr yr Actores Orau ddwywaith - yn 2002 am 'The Bench' ac yn 2010 am 'Cwcw'