Llid yr ymennydd: Atal marwolaethau plant

  • Cyhoeddwyd
Cell llid yr ymennyddFfynhonnell y llun, Science Photo Library

Mae Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant yn cyhoeddi argymhellion er mwyn gostwng nifer y plant sy'n marw o lid yr ymennydd.

Mae'r adroddiad yn pwysleisio pwysigrwydd diagnosis cynnar.

Dywedodd Dr Ciaran Humphreys, Cyfarwyddwr Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae symptomau cynnar llid yr ymennydd yn debyg i lawer o afiechydon cyffredin eraill ac felly gall wneud diagnosis o'r afiechyd yn heriol."

Mae'r adroddiad yn dweud gallai meddyg teulu sy'n gweithio amser llawn yng Nghymru ddisgwyl gweld plentyn â llid yr ymennydd neu glefyd meningococaidd tua unwaith bob 17 mlynedd, ar gyfartaledd.

Lleihau Achosion

Yn ôl Dr Humphreys: "Mae yna lawer o ganllawiau ar gael ac mae'n rhaid i weithwyr gofal iechyd - yn ogystal â rhieni a gofalwyr - fod ar eu gwyliadwriaeth bob amser am beryglon yr afiechyd."

Mae'r adroddiad hefyd yn argymhell sicrhau bod plant yn derbyn y brechiadau diweddaraf. Mae'n bosib cael brechiadau rhag amrywiaeth o wahanol fathau o lid yr ymennydd.

Cynigir brechlyn MMR, 5 mewn 1, llid yr ymennydd C a'r brechlyn niwmococol am ddim ar y GIG.

Mae'r adroddiad yn dangos lleihad mewn achosion o lid yr ymennydd mewn plant dros y blynyddoedd diwethaf.

Meddai Dr Ciaran Humphreys, sydd hefyd yn un o awduron yr adroddiad: "Mae yna dystiolaeth glir bod brechiadau wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus wrth atal mathau arbennig o lid yr ymennydd.

"Mae'n hynod bwysig gofalu bod y rhaglen frechu gyfredol ar gyfer plant yn cael ei gweithredu'n effeithiol."

Mae'r adroddiad yn cynnwys cyngor gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol, Sefydliad Ymchwil Llid yr Ymennydd, Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant a'r Coleg Meddygaeth Frys, er mwyn ceisio lleihau eto ar nifer y plant sy'n marw o ganlyniad i lid yr ymennydd.