Rhyddhau dyn: Dim cyfieithydd Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Carchar Manceinion
Disgrifiad o’r llun,
Gorfodwyd yr heddlu i rhyddhau dyn oherwydd iddyn nhw fethu â dod o hyd i gyfieithydd Cymraeg.

Bu'n rhaid i heddlu yn Lloegr ryddhau dyn yn ddigyhuddiad er ei fod yn feddw ac afreolus - wedi iddo ofyn am gyfieithydd i gyfieithu i'r Gymraeg.

Cafodd y dyn 26 oed o Salford ei arestio nos Sadwrn ar ôl achosi anhrefn yng nghanol dinas Manceinion.

Wedi noson yn y celloedd er mwyn sobri, fe wnaeth swyddogion ddarllen ei hawliau iddo fel rhan o'r broses droseddol.

Ond mynnodd y dyn ei fod angen cyfieithydd i gyfieithu'r geiriau i'r Gymraeg iddo fedru eu deall, a hynny er ei fod wedi bod yn siarad Saesneg rhugl drwy'r nos.

Mae'n debyg bod ganddo wreiddiau Cymreig.

Rhybudd swyddogol

Roedd yn rhaid i'r heddlu, yn unol â'r rheolau, fynd ati wedyn i chwilio am gyfieithydd.

Fe dreulion nhw bedair awr o'r dydd Sul yn chwilio am gyfieithydd, ond doedd dim un ar gael, felly doedd gan yr heddlu ddim dewis ond rhyddhau'r meddwyn ar fechnïaeth yn ddi-gyhuddiad.

Roedd Heddlu Manceinion yn ddig iawn gyda'r sefyllfa, gan ddweud ar Twitter: "Mechniaeth... er ei fod wedi bod yn siarad Saesneg yn yr orsaf drwy'r dydd, fe fynnodd gael cyfieithydd Cymraeg ond fe gafon ni drafferth cael gafael ar un...

"A na, nid beirniadaeth o'r Cymry, dim ond rhwystredigaeth a theimlo bod rhywun yn bod yn anodd heb reswm."

Daeth y dyn yn ôl i'r orsaf yn ddiweddarach a chytunodd i dalu dirwy a derbyniodd rybudd swyddogol.

"Fe wnaeth y dyn, chwarae teg iddo, dderbyn hysbysebiad cost penodedig o £80 - yn Saesneg," meddai ffynhonnell o'r heddlu.