AS yn cyfadde iddo gael ei dwyllo
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol Gorllewin Abertawe, Geraint Davies, wedi cyfadde iddo gael ei dwyllo gan Alan Knight oedd wedi honni bod ganddo anabledd difrifol a bod yr heddlu yn ei gam-drin.
Dywedodd Mr Davies iddo gymryd diddordeb yn yr achos, gan ysgrifennu at yr heddlu wedi iddo gyfarfod â gwraig Alan Knight, Helen.
Bwriad Knight oedd osgoi erlyniad yn sgil twyllo cymydog o £40,000.
Aeth i'r "ysbyty o leiaf ddwywaith" er mwyn osgoi achosion llys.
Dywedodd yr heddlu bod troseddau Knight yn "gynllwyn twyll tymor hir."
'Celwydd i gyd'
Dywedodd yr AS: "Disgrifiodd Helen Knight gyflwr meddygol difrifol ei gŵr a dywedodd iddo gael ei gam-drin gan yr heddlu.
"Roedd yn gelwydd i gyd.
"Yn amlwg, mae'n rhaid i mi ymchwilio i honiadau difrifol fel hyn a chymryd gair pobl."
Ychwanegodd: "Mae'n amlwg bod Alan Knight yn llawn twyll ac yn wynebu dirwy yn y llys."
Roedd Knight yn byw ar fudd-daliadau wedi iddo honni ei fod yn dioddef o anaf difrifol i'w wddf.
Roedd ei wraig 33 oed yn honni iddi orfod gofalu amdano.
Ymddangosodd Knight yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth a phledio'n euog. Bydd yn cael ei ddedfrydu fis nesaf.