Profi i ddechrau ar faes awyrennau Llanbedr
- Published
Mae cwmni QinetiQ a Stâd Faes Awyrennau Llanbedr wedi cyhoeddi bod y lleoliad ar agor i dreialu system awyrennau ddi-beilot. Mae'r awyrennau'n cael eu rheoli gan beilot o bell.
Maint rhedfa bresennol Llanbedr yw 7500 troedfedd, sy'n addas ar gyfer profi'r awyrennau arbennig.
Y gobaith yw bydd y datblygiad yn cryfhau'r apêl i gynnal digwyddiad Spaceport y DU yno yn 2018.
Bydd awyrennau'n cael eu profi yn Llanbedr o ddechrau 2015, wedi 90 diwrnod o rybudd er mwyn ailgysylltu gyda'r lleoliad presennol o dreialu awyrennau, Aberporth. Dywedodd llefarydd ar ran Maes Awyrennau Llanbedr: "Diolch i Lywodraeth Cymru a QinetiQ rydym ni wedi gallu ehangu a gwella ar gyfle unigryw i gynnig lleoliad i brofi'r awyrennau arbennig yn ogystal â rhoi cyfle i ni lwyfannu a chystadlu'n rhyngwladol o fewn twf y sector."
Daeth croeso i'r newyddion gan Edwina Hart, Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, meddai: "Mae datblygiadau maes awyrennau Llanbedr yn cynnig cyfleoedd gwaith i'r ardal ac yn dangos bod Cymru ar y blaen mewn technolegau awtonomaidd newydd."