Treisiwr yn rhyddhau fideo
- Cyhoeddwyd

Mae'r pêl-droediwr Ched Evans wedi gwenud datganiad ar fideo gan ddweud ei fod yn benderfynol "o barhau gyda'r frwydr i glirio ei enw."
Cafodd y pêl-droediwr rhyngwladol, 25 oed, ei ryddhau o'r carchar ddydd Gwener ar ôl treulio hanner ei ddedfryd o bum mlynedd dan glo am dreisio dynes mewn gwesty yn Rhuddlan, Sir Ddinbych.
Mae'r chwaraewr oedd ar lyfrau Sheffield United yn dweud ei fod yn awyddus i chwarae pêl-droed eto.
Hyd yn hyn mae wedi gwrthod cais gan y BBC am gyfweliad.
Dim ymddiheuriad
Roedd ei gariad Tasha wrth ei ochr yn y datganiad fideo.
Yn y neges ar ei wefan bersonol mae'n dweud: "Fe wnes i benderfyniad gwirion gan siomi'r bobl oedd yn ymddiried ynof i, yn bennaf Tasha ac ein teuluoedd.
"Mae'n anrhydedd prin gallu chwarae pêl-droed proffesiynol.
"Nawr fy mod i wedi cwblhau fy nedfryd ...fy ngobaith yw gallu dychwelyd i chwarae pêl-droed.
"Rwy wedi dysgu gwers boenus, a phe bawn yn gallu dychwelyd, byddaf yn gwneud hynny gyda gwyleidd-dra. Rwyf am gael ail gyfle, ond dwi'n gwybod nad pawb fyddai'n cytuno."
Doedd yna ddim ymddiheuriad am ei drosedd ar y fideo.
150,000 wedi arwyddo deiseb
Mae mwy na 150,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn annog y clwb i beidio ag ail-arwyddo'r chwaraewr.
Cafodd ei garcharu am bum mlynedd wedi i reithgor ei gael yn euog o dreisio dynes mewn gwesty ym mis Mai 2011.
Mae'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol, y corff sy'n ymchwilio i achosion posibl o gamweinyddu cyfiawnder, wedi dweud y bydd ymchwiliad i achos Evans yn dechrau o fewn wythnosau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2014
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2014
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2014
- Cyhoeddwyd27 Awst 2014