Ewrop, Galar a Hwb i'r Undeb
- Cyhoeddwyd

Mae hi wedi bod yn wythnos brysur i rygbi Cymru. Gareth Charles, Gohebydd Rygbi BBC Cymru sy'n edrych nôl ar y datblygiadau ar ran BBC Cymru Fyw:
Wythnos Fawr
Wel bois bach 'na beth oedd wythnos fawr i rygbi Cymru - ar ac oddi ar y cae! I ddechrau, roedd penwythnos cynta' Ewrop ar ei newydd wedd a phwy fyddai wedi proffwydo'r fath lwyddiant i dimau Cymru. Heb os y canlyniad mwyaf annisgwyl oedd un y Dreigiau yn Stade Francais yn y Cwpan Her - nid yn unig buddugoliaeth ond pwynt bonws - anhygoel!
Gobeithio bydd hyn yn hwb anferth i hyder gwŷr Gwent ar ôl dechrau hynod siomedig i'r tymor. Mae'r un yn wir am y Gleision lwyddodd i gael y pum pwynt llawn o'u gêm nhw yn erbyn Grenoble.
Y Gweilch a'r Scarlets
Y penwythnos hwn bydd y cystadlu'n dechrau o ddifri i'r Gweilch yng Nghwpan y Pencampwyr oherwydd prin eu bod nhw wedi torri chwys yn chwalu tîm sâl iawn Treviso ar y Liberty.
Roedd eisiau i'r Gweilch wneud yn fawr o'u cyfle - nhw oedd yr unig dîm i groesi'r deugain pwynt yn y rownd gynta' ac ond un o dri i sicrhau pwynt bonws am sgorio pedwar cais - tystiolaeth ar yr olwg gynta' bod dymuniad y trefnwyr i gael cystadleuaeth agosach, fwy ystyrlon drwy gael gwared ar bedwar o'r timau gwannaf yn dwyn ffrwyth.
Roedd y Scarlets yn haeddu pwynt bonws am eu hymdrech nhw yng nghartre'r pencampwyr Toulon ond cwpwl o gamgymeriadau ar adegau allweddol yn eu rhwystro.
Colled fawr
Yn gefndir i'r gêm honno roedd colli un o feibion selocaf y Sosban - Stuart Gallacher. Mawr o gorffolaeth, mawr o gymeriad, roedd Stuart wastad yn gwbwl ddi-flewyn-ar-dafod a chwbwl ddigyfaddawd.
Roedd e'n credu'n angerddol mewn rhai pethau ac yn gallu tynnu nyth cacwn i'w ben a doedd e ddim yn diodde' ffyliaid. Roeddech chi'n gwybod yn union ble roeddech chi'n sefyll gyda Stuart ond yn gallu chwerthin yn braf yn ei gwmni hefyd. Bydd byd rygbi Cymru'n dlotach hebddo.
Cadeirydd newydd
Yn yr un wythnos mae Undeb Rygbi Cymru wedi cael ei gyfoethogi gan benodiad Gareth Davies fel Cadeirydd y Bwrdd. Un arall sydd â gwerthoedd rygbi Cymru yn treiddio'n ddwfn i'w gymeriad, mae ganddo brofiad helaeth o'r gêm fel chwaraewr, gweinyddwr a darlledwr.
Mae ganddo gefndir busnes llwyddiannus a chysylltiadau byd-eang, ond yn bwysicach o gofio'r hanes diweddar rhwng yr undeb a'r clybiau mae ganddo'r ddawn i gyfathrebu â phobl ar bob lefel.
Braf ei glywed e'n dyfynnu hen arwyddair Ysgol y Gwendraeth wrth gael ei dderbyn i'r swydd - "Ymhob braint y mae dyletswydd". Fe ddylai rygbi Cymru'n gyffredinol dalu sylw.